Wythnos y We: 28 Ebrill - 2 Fai
- Cyhoeddwyd
Bob dydd Gwener bydd BBC Cymru Fyw yn edrych yn ôl ar rai o uchafbwyntiau yr wythnos ac ambell i bwt doniol ac anarferol gafodd ei gynnwys yn y llif byw dros y dyddiau diwethaf.
Cofiwch ychwanegu bbc.co.uk/cymrufyw at eich ffefrynnau (bookmarks) ar eich cyfrifiadur, dabled neu ffôn symudol.
Dyma i chi rai o'r pethau wnaeth dynnu ein sylw dros y pum diwrnod diwethaf.
Dydd Llun, Ebrill 28
Wyddoch chi fod gan Ynys Enlli frenin unwaith? Mewn erthygl am hanes hynod yr ynys ar wefan Casgliad y Werin Cymru mae'n debyg i'r traddodiad coroni ar yr ynys ddechrau ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif ond gwisgwyd y goron am y tro cyntaf ym 1820, gan barhau am tua canrif. Love Pritchard oedd brenin olaf Enlli.
Dydd Mawrth, 29 Ebrill
Mae gwefan Golwg 360 yn crynhoi llwyddiant Cymru yn yr Ŵyl Ban Geltaidd oedd yn cael ei chynnal yn Deri yng Ngogledd Iwerddon yr wythnos diwethaf.
Enillodd Hogia' Glanaethwy deitl Côr yr Ŵyl a chafodd Côr Glanaethwy a nifer o gystadleuwyr eraill lwyddiant hefyd.
Dydd Mercher, 30 Ebrill
Cyfres gomedi newydd yw Bernard & Knives sydd yn cael ei chyhoeddi ar y we gydag Ieuan Rhys yn ymddangos fel un o'r prif gymeriadau.
Mae'r gyfres yn mynd i gael ei chyhoeddi fesul wythnos ar YouTube yn unig.
Mae Ieuan wedi bod yn son am y gyfres ar wefan Pobl Caerdydd.
Dydd Iau, Mai 1
Mae Statiaith wedi dechrau trydar heddiw am ystadegau sy'n ymwneud â'r Gymraeg. Cymerwch olwg ar y wefan.
Dydd Gwener, Mai 2
Mae Machynlleth yn paratoi am bedwar diwrnod o chwerthin wrth i ŵyl gomedi'r dref ddechrau heddiw. Un o'r rhai sy'n cymryd rhan yng Nghanolfan Owain Glyndŵr heno ydy Steffan Alun. Dywedodd wrth Cymru Fyw:
"Gŵyl Gomedi Machynlleth yw cyfnod gorau'r flwyddyn gomedi i mi. Cewri'r byd comedi yn cael cyfle i arbrofi, a lle gwych i gyflwyno comedi Cymraeg i gynulleidfa sy'n gwybod eu stwff. Mae'r gefnogaeth i'r perfformiadau ac i'r iaith yn anhygoel."