Cwpan Cymru: Aber v Seintiau

  • Cyhoeddwyd
Cwpan CymruFfynhonnell y llun, FA Cymru
Disgrifiad o’r llun,
Dyw Aber heb ennill y gwpan ers dros ganrif

Bydd Y Seintiau Newydd ac Aberystwyth yn mynd benben a'i gilydd yn rownd derfynol Cwpan Cymru ar Y Cae Ras yn Wrecsam ddydd Sadwrn.

Mae'r Seintiau wedi curo'r gynghrair am y trydydd tro yn olynol gan sicrhau gemau yng Nghynghrair y Pencampwyr y Tymor nesaf.

Dyw Aber heb gael yr un llwyddiant yn ddiweddar - yn wir, mae'n 114 o flynyddoedd ers iddyn nhw godi'r gwpan y tro diwethaf, nôl yn 1900.

Fe lwyddon nhw i gyrraedd y rownd derfynol yn 2009 hefyd, ond colli i Fangor fu eu hanes.

'Achlysur gwych'

Mae'r ffaith eu bod nhw heb gôl-geidwad profiadol yn sicr o'i gwneud hi'n anoddach iddyn nhw fynd un yn well y tro hwn.

Dyw Mike Lewis dal heb wella o anaf i'w ffêr, ac mae'n debyg mai'r amddiffynnwr Chris Hoy fydd yn gorfod gwisgo'r menig i'w glwb unwaith yn rhagor.

Dywedodd eu rheolwr, Ian Hughes, ar wefan y clwb: "Rydym ni gyd yn edrych ymlaen at y gêm a bydd yn siŵr o fod yn achlysur gwych.

"Mae'n braf clywed, i mi ac i'r chwaraewyr, y bydd chwech o fysys yn mynd fyny i'r Cae Ras am y gêm.

"Mi fyddan ni'n mynd yno i ennill y gêm, ac er bod llawer yn meddwl mai'r Seintiau yw'r ffefrynnau, rydym yn gwybod fod gennym ni nifer o chwaraewyr sy'n gallu ennill gemau o fewn y garfan, sydd yn siŵr o achosi cur pen i'n gwrthwynebwyr."

Lle yn Ewrop

Mae'r sefyllfa o ran pwy fydd yn cael y llefydd yn Ewrop yn gymhleth. Mae Aber yn sicr o'u lle yng Nghwpan Europa, ynghyd ac Airbus, hyd yn oed os ydyn nhw'n colli.

Ond mae pa dimau fydd yn cystadlu yng ngemau'r ail gyfle ar gyfer y lle olaf yn dibynnu ar ganlyniad y gêm, gyda Bala'n cael cyfle i efelychu eu campau'r tymor hwn, petai Aber yn curo.

Mae'r bwcis yn rhoi'r Seintiau yn ffefrynnau cyfforddus, 2/5, gydag Aber yn treulio ar bris o 5/1.

Ond mae gemau cwpan yn gallu bod yn bethau rhyfedd - a bydd Ian Hughes yn gobeithio gweld un o'i chwaraewyr yn achosi sioc fawr brynhawn Sadwrn.

Bydd y gêm yn cael ei dangos yn fyw ar S4C, a bydd y diweddaraf am yr hynt a'r helynt i'w glywed ar Radio Cymru drwy gydol y prynhawn. Bydd y gic gyntaf am 15:00.