Beirniadu gwasanaethau gofal lliniarol yng Ngheredigion

  • Cyhoeddwyd
Gofal lliniarol
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd gofal lliniarol yng Ngheredigion ers diddymu elusen Ffagl Gobaith ei feirniadu

Mae cyn- gyfarwyddwr meddygol bwrdd iechyd yn dweud bod gofal lliniarol yng Ngheredigion wedi dirywio ers i elusen sy'n helpu pobl ddifrifol wael gau 18 mis yn ôl.

Collwyd 17 o swyddi llawn a rhan amser ym mis Rhagfyr 2012 pan ddiddymwyd yr elusen, Ffagl Gobaith (Beacon of Hope).

Oherwydd hyn mae Dr Alan Axford yn honni, nad oes yna ddilyniant cyson yng ngofal pobl sy'n dioddef o salwch terfynol.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Hywel Dda eu bod yn parhau i weithio mewn partneriaeth ac wedi cynyddu rhifau nyrsys gofal lliniarol

Gwasanaeth dryslyd

Roedd Dr Axford yn feddyg yn Ysbyty Bronglais, Aberystwyth, am dros 30 mlynedd ac yn gyfarwyddwr meddygol Ymddiriedolaeth GIG Ceredigion am 10 mlynedd.

Meddai : "Mae'r gwasanaeth yn awr ar yr un lefel a chyn bodolaeth Ffagl Gobaith.

"Rwyf yn credu ei fod wedi cael ei osod yn ôl ddeng mlynedd.

"O safbwynt y claf mae llai o ddilyniant yn eu gofal a gall hyn fod yn ddryslyd i gleifion a gofalwyr."

Roedd gwasanaethau nyrsio Ffagl Gobaith yn cael eu hariannu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ond roedd eu gwasanaethau cynorthwyol yn dibynnu ar roddion.

Roedd y gwasanaethau yma yn cynnwys rhoi cyngor i gleifion.

Yn ogystal roedd ganddynt grŵp o fwy na 40 o wirfoddolwyr a fyddai'n eistedd gyda chleifion neu yn helpu gyda thasgau eraill i'r claf, megis garddio a siopa .

Ychwanegodd Dr Axford: "Yn ystod yr 18 mis diwethaf mae'r gwasanaeth wedi bod yn dameidiog yng Ngheredigion.

"Mae angen i ofal lliniarol fod yn amserol ac mae cleifion angen pecyn o ofal ar gael ar unwaith, yn ddelfrydol o fewn 12 awr i'r gofyn.

"Bellach nid yw hyn yn bosibl oherwydd gall gymryd sawl diwrnod, hyd yn oed wythnosau ac erbyn hynny mae'n aml yn rhy hwyr. "

Cynnydd

Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Hywel Dda : "Mae darparu gofal iechyd o safon uchel i bobl ar ddiwedd eu hoes mewn lleoliad o'u dewis yn bwysig i Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ac rydym wedi cynyddu ein gallu nyrsio lliniarol yng Ngheredigion."

Ychwanegodd y Bwrdd Iechyd eu bod yn "parhau i gyd-weithio" gydag asiantaethau a phartneriaid i asesu eu gwasanaethau.

Sefydlwyd Ffagl Gobaith yn 2000 gan Elizabeth Murphy, athrawes wedi ymddeol, ac roedd ganddynt swyddfeydd yn Aberystwyth, Aberteifi a Machynlleth .

Rhedodd Mrs Murphy swyddfa gyntaf yr elusen o'i chartref yn y Borth ger Aberystwyth.

Helpodd y gwasanaeth cannoedd o bobl yn dioddef o salwch terfynol yn ogystal â'u teuluoedd .

Cafodd Mrs Murphy MBE yn 2008 am ei gwasanaeth i'r gymuned yng Ngheredigion.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol