Scarlets yn sicrhau lle Ewropeaidd

  • Cyhoeddwyd
Rhys PriestlandFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Rhys Priestland oedd un o ser y noson i'r Scarlets

Scarlets 34-23 Dreigiau

Roedd y Scarlets yn gwybod y byddai dau bwynt yn ddigon iddyn nhw sicrhau eu bod yn y brif gystadleuaeth Ewropeaidd y tymor nesaf, a heblaw'r munudau agoriadol fe wnaethon nhw fwrw ati nos Wener.

Y Dreigiau aeth ar y blaen diolch i gol gosb Kris Burton, ond yna fe ddechreuodd y ceisiau lifo i'r tîm cartref.

Jake Ball oedd y cyntaf i groesi, ond roedd angen bob modfedd o'i 6'8" i gyrraedd y llinell yn dilyn sgarmes rydd.

Ar ôl i Rhys Priestland ymestyn y fantais gyda gôl gosb, doedd dim syndod gweld Gareth Davies yn croesi am gais yn dilyn bylchiad celfydd, ac fe aeth o dan y pyst.

Jordan Williams gafodd y trydydd cais, a gyda Priestland yn llwyddo gyda'r tri throsiad roedd y Scarlets ar y blaen o 24-3.

Ond yna fe ddaeth munud neu ddau o ddiffyg canolbwyntio. Yn gyntaf fe drosodd Burton ei ail gol gosb, ac yna llwyddodd y maswr i ryng-gipio pas gan y Scarlets, ac er nad oedd ganddo'r cyflymder i gyrraedd y llinell ei hun, fe basiodd at Tom Prydie i orffen y symudiad o dan y pyst.

Gyda throsiad Burton roedd hi'n 24-13 ar yr egwyl.

Cerdyn melyn

Fe allai'r cyfnod yna fod wedi profi'n gostus yn enwedig pan gaeodd Burton y bwlch ymhellach gyda'i drydedd gôl gosb ar ddechrau'r ail hanner.

Ond fe ddechreuodd y cefnogwyr cartref ymlacio pan groesodd y Scarlets am eu pedwerydd cais i sicrhau pwynt bonws, ac un o'r ddau bwynt oedd ei angen arnynt i sicrhau lle yn y chwech uchaf.

Pas wych gan Priestland greodd y cyfle i Ken Owens groesi, a gyda throsiad arall gan y maswr roedd hi'n 31-16.

Pan welodd Rhys Thomas o'r Dreigiau gerdyn melyn am drosedd wirion, roedd y Scarlets yn gweld eu cyfle.

Ond 14 dyn yr ymwelyr gafodd y cais nesaf. Yn ystod cyfod o bwyso mawr gan y Scarlets, daeth gwrth ymosodiad campus gan y Dreigiau gan arwain at gic hir a chwrs i Tom Prydie.

Llwyddodd yr asgellwr i gyrraedd yno gyntaf a chroesi, ac fe ychwanegodd yr eilydd Jason Tovey'r ddau bwynt ychwanegol.

Roedd Priestland yn ardderchog drwy'r gêm ac fe gafodd driphwynt arall gyda'i droed cyn cicio'r bêl dros yr ystlus i orffen y gêm.