Athrawes yn canmol ysgol wedi 'cynllwyn i ladd'
- Cyhoeddwyd

Mae athrawes y mae'r BBC yn deall oedd targed cynllwyn honedig i ladd gan ddwy ferch wedi canmol yr ysgol am y ffordd y delion nhw gyda'r digwyddiad.
Cafodd Heddlu Gwent eu galw i Ysgol Cwmcarn yn Sir Caerffili ddydd Iau yn dilyn pryderon am eu hymddygiad.
Cafodd merch 15 oed o Drecelyn a merch 14 oed o Rhisga eu harestio a'u rhyddhau ar fechnïaeth.
Dywedodd Alison Cray, 46, yr athrawes y mae'r BBC yn deall oedd targed y cynllwyn honedig, na "ychydig iawn" oedd hi'n gwybod am y digwyddiad.
Dywedodd yr athrawes fathemateg: "Cafodd yr holl beth ei ddelio gydag o cyn fy nghyrraedd i.
"Ychydig iawn dwi'n gwybod am y peth. Digwyddodd yr holl beth rhywle arall a doeddwn i ddim yn rhan ohono o gwbl.
"Dwi'n lwcus fy mod i yng Nghwmcarn a'u bod nhw wedi delio mor dda gyda'r peth.
"Dwi wedi bod yn gweithio fel arfer a dwi'n teimlo'n iawn."
Yn ôl yr heddlu, cafodd y ferch 15 oed ei harestio ar amheuaeth o fygwth lladd, bod ag arf llafnog yn ei meddiant ar dir yr ysgol a chynllwynio i lofruddio.
Cafodd y ferch 14 oed ei harestio ar amheuaeth o gynllwynio i lofruddio.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Caerffili ac Ysgol Cwmcarn: "Gallwn gadarnhau bod pryderon wedi eu codi am ddau ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Cwmcarn ddoe a bod staff a Heddlu Gwent wedi delio gyda rhain yn sydyn iawn.
"Mae cefnogaeth nawr ar gael i ddisgyblion a staff a hoffwn sicrhau rhieni bod yr holl gamau priodol wedi eu cymryd i ymateb yn effeithiol i'r sefyllfa.
"Rydyn ni nawr yn helpu'r heddlu gyda'r ymchwiliad."
Straeon perthnasol
- 2 Mai 2014