Curran yn addo 'mwy o adnoddau' i Gymru yn y dyfodol
- Cyhoeddwyd

Mae llefarydd y blaid Lafur ar Yr Alban, Margaret Curran wedi dweud y byddai llywodraeth Lafur yn San Steffan yn sicrhau bod Cymru yn cael mwy o arian gan y Trysorlys yn y dyfodol.
Mae cyllidebau Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cael eu penderfynu yn Whitehall gan system sy'n cael ei adnabod fel Fformiwla Barnett.
Mae Llywodraeth Cymru yn honni eu bod yn cael llai o arian nac y dylent drwy'r fformiwla, ac wedi galw am ddefnyddio system newydd sy'n cael ei seilio ar angen gwledydd yn hytrach na maint y boblogaeth.
Yn siarad ar raglen Sunday Politics, dywedodd Ms Curran, aelod o'r grŵp ymgyrchu yn erbyn annibyniaeth, Better Together, na fyddai Fformiwla Barnett yn cael ei newid gan lywodraeth Lafur, ond y byddai'n adnabod cais Cymru "am fwy o adnoddau".
'Achos cryf'
Ychwanegodd: "Mae Ed Miliband, arweinydd y blaid Lafur, wedi bod yn glir iawn am hyn ac ni fydd unrhyw newid i Fformiwla Barnett ynglŷn â'r Alban.
"Rydyn ni yn y blaid Lafur yn deall bod pryderon penodol ynglŷn â Chymru yn ymwneud a chydgyfeiriant (convergence) ac mae Cymru wedi methu allan oherwydd hynny.
"Rydyn ni eisiau mynd i'r afael a'r mater ynglŷn â Chymru."
Ar ei ymweliad diweddar a Chaerdydd fel rhan o'i ymgyrch etholiadau Ewrop, dywedodd Ed Miliband bod Fformiwla Barnett wedi gweithio yn dda i'r DU, ac y byddai'n parhau i wneud hynny.
Ond dywedodd bod gan Gymru "achos cryf" am fwy o arian a bod angen edrych ar hynny.
Dywedodd Ms Curran, AS Gorllewin Glasgow, y byddai Llafur yn "fwy penodol" am y cyllid yn eu maniffesto ar gyfer Etholiad Cyffredinol 2016.
'Dyfodol cyffrous'
Gwrthododd yr honiad gan ddirprwy Brif Weinidog Yr Alban, Nicola Sturgeon, y byddai annibyniaeth i'r Alban yn rhoi Cymru mewn sefyllfa well i geisio hawlio mwy o arian o San Steffan.
Dywedodd: "Mae hynny'n rhesymeg od iawn oherwydd dwi yn meddwl bod Fformiwla Barnett yn fformiwla gynhenid, mae'n rhan o'r Undeb a'r ffordd yr ydyn ni'n perthyn i'n gilydd a'r ffordd orau i amddiffyn hynny yw aros yn rhan o'r Undeb.
"Dyna un o'r prif eironïau mewn gwleidyddiaeth yw bod ymwahanwyr, cenedlaetholwyr, yn dweud beth yw'r ffordd orau i weddill yr Undeb weithio gyda'i gilydd.
"Dwi'n meddwl bod gyda ni ddyfodol cyffrous.
"Mae'n un lle rydyn ni'n edrych am fwy o bwerau, un lle rydyn ni'n meddwl y gallwn gryfhau ein cenhedloedd ac ar yr un pryd cryfhau'r Undeb a dwi'n meddwl bod hynny'n siwrne llawer mwy positif."
Mae llywodraeth Cymru wedi bod yn galw am ddiwygio'r ffordd mae cyllid y Trysorlys yn cael ei roi i wledydd sydd wedi eu datganoli ers 2009, pan wnaeth Comisiwn Holtham ddweud bod Fformiwla Barnett yn golygu bod Cymru yn methu allan ar dros £300m y flwyddyn.
Ar Fedi 18, bydd etholwyr yn Yr Alban yn ateb y cwestiwn 'A ddylai'r Alban fod yn wlad annibynnol?'.
Mae rhaglen Sunday Politics ar BBC1 am 11:00yb ddydd Sul.
Straeon perthnasol
- 24 Mawrth 2014
- 7 Gorffennaf 2009