Streic diffoddwyr ar ben wedi gweithredu ddydd Sul
- Cyhoeddwyd

Mae streic y diffoddwyr ar ben wedi trydydd diwrnod o weithredu ddydd Sul.
Roedd aelodau o Undeb y Frigâd Dân (FBU) yn streicio rhwng 10:00yb a 3:00yh ddydd Sul, wedi i aelodau weithredu ddydd Gwener a Sadwrn.
Roedd y gweithredu'n rhan o anghydfod am gynlluniau llywodraeth y DU i godi oed ymddeol diffoddwyr o 55 i 60, a chynyddu eu cyfraniadau pensiwn.
Cyn y streic, roedd rhybudd gan y Gwasanaethau Tân i bobl "gymryd gofal ychwanegol" dros gyfnod y streic.
Anghydfod
Mae Undeb y Frigâd Dân (FBU) wedi cynnal cyfres o streiciau byr ar draws Cymru a Lloegr ers mis Medi.
Mae'r undeb yn dweud y dylai diffoddwyr gael ymddeol yn gynt na gweithwyr eraill oherwydd natur gorfforol y gwaith.
Mae'r Gwasanaethau Tân wedi rhybuddio pobl i "gymryd gofal ychwanegol" dros y penwythnos, yn enwedig os ydyn nhw allan yn mwynhau Gŵyl y Banc.
Ar ôl y streic, dywedodd Prif Swyddog Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Simon Smith, bod y gwasanaeth wedi llwyddo i ddelio gyda galwadau yn ystod y streic.
"Er gwaethaf y lleihad mewn adnoddau, llwyddodd ein trefniadau i weithio yn effeithiol ac rydyn ni nawr wedi dychwelyd i wasanaeth arferol.
"Rydw i'n ddiolchgar i'r cyhoedd am gyd-weithio ac am gymryd sylw o'n rhybudd diogelwch - roedd y nifer o alwadau gafodd eu gwneud yn is na'r nifer y bydden ni'n disgwyl ar gyfer dydd Sul penwythnos gŵyl y banc.
"Er bod y streic ar ben erbyn hyn, nid yw'n glir os bydd gweithredu pellach gan ddiffoddwyr felly rydyn ni'n atgoffa pobl bod diogelwch tan a ffordd yn bwysig iawn."
Ychwanegodd Dirprwy Brif Swyddog Gwasanaeth Tân ac Achub y De, Rod Hammerton: "Ein gobaith yw y gall yr angyhydfod yma rhwng yr FBU a'r llywodraeth gael ei ddatrys yn sydyn, ac mewn ffordd ddiogel a derbyniol i bob parti."
Straeon perthnasol
- 3 Mai 2014
- 2 Mai 2014