Cyhoeddi gwasanaeth coffa canmlwyddiant y Rhyfel Mawr

  • Cyhoeddwyd
Cadeirlan Llandaf
Disgrifiad o’r llun,
Bydd yr wylnos yn cael ei gynnal yng Nghadeirlan Llandaf

Bydd gwasanaeth goffa arbennig yn cael ei gynnal yng Nghymru ym mis Awst, i nodi canmlwyddiant ers dechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf.

Cyhoeddodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, ac Arweinydd Cyngor Dinas Caerdydd, y Cynghorydd Phil Bale, y bydd gwylnos yn cael ei gynnal ar nos Lun, Awst 4.

Bydd y gwasanaeth yn nodi dechrau cyfnod o bedair blynedd o ddigwyddiadau i gofio canmlwyddiant y Rhyfel Mawr.

Dywedodd Carwyn Jones ei fod yn gyfle i "adlewyrchu a choffáu" digwyddiadau'r cyfnod.

Cyfnod o goffáu

Bydd y gwasanaeth yn cael ei gynnal yng Nghadeirlan Llandaf, dan arweiniad Deon Llandaf, yr Hybarch Gerwyn Capon, a'r Parchedig Aled Edwards.

Archesgob Cymru, Dr Barry Morgan fydd yn pregethu.

Dywedodd Carwyn Jones: "Bydd yr wylnos yma ar Awst 4 yn nodi dechrau cyfnod o bedair blynedd o goffáu'r Rhyfel Byd Cyntaf, cyfnod yn ein hanes arweiniodd at ddewrder ac aberth enfawr ar faes y gâd ac arwriaeth dawel ar y ffrynt cartref.

"Mae'n gyfle i adlewyrchu a choffáu cyfnod ofnadwy yn ein hanes, newidiodd y byd, a siapiodd y Cymru yr ydyn ni'n byw ynddo heddiw."

Ychwanegodd Arweinydd y Cyngor, Phil Bale: "Mae'n bwysig ein bod ni yn parhau i gofio dewrder y bobl oedd wedi ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf a bod y straeon o aberth enfawr yn parhau i gael eu cofio 100 o flynyddoedd yn ddiweddarach.

"Adlewyrchiad tawel yw'r ffordd gywir i sicrhau ein bod ni'n cofio'r cyfnod allweddol hwn mewn hanes a chofio'r rheiny sydd wedi ymladd dros eu gwlad."

Bydd nifer o ddigwyddiadau eraill yn cael eu cynnal dros Gymru ar Awst 4, fel rhan o'r cyfnod coffáu.