Y Seintiau Newydd wedi ennill Cwpan Cymru

  • Cyhoeddwyd
Seintiau Newydd

Mae'r Seintiau Newydd wedi ennill Cwpan Cymru wedi buddugoliaeth gyffrous dros Aberystwyth ar y Cae Ras.

Aeth Aber 2-0 ar y blaen o fewn 12 munud diolch i goliau gan Chris Venables, y cyntaf yn foli a'r ail o'r smotyn.

Llwyddodd Aber i aros ar y blaen tan yr ail hanner, ond gyda llai na 20 munud yn weddill dechreuodd y Seintiau ymladd yn ôl.

Greg Draper sgoriodd y gôl gyntaf o'r smotyn ar ôl 72 munud, cyn penio ail gol yn fuan wedyn i ddod a'r timau yn gyfartal.

Prif sgoriwr y Seintiau, Mike Wilde, sgoriodd y gôl fuddugol.

Saethodd i'r rhwyd ar ôl 84 munud i sicrhau'r fuddugoliaeth, a'r tlws i'w dîm.