Casnewydd 2 - 1 Rochdale

Rochdale's Jamie Allen is challenged for the high bouncing ball by Newport County's Max Porter Image copyright Huw Evans picture agency

Roedd rhaid i Rochdale fod yn fodlon hefo'r drydydd safle yn yr Ail Adran, wedi i beniad hwyr Kevin Feely roi buddugoliaeth i 10 dyn Casnewydd.

George Donnelly roddodd Rochdale ar y blaen ar ôl hanner awr o chwarae cyn i Aaron O'Connor sgorio yn ei gem gyntaf yn ôl ers anaf.

Cafodd Ryan Jackson gerdyn coch am drosedd ar Ian Henderson yn y cwrt cosbi, ond llwyddodd Ian McLoughlin i arbed y gic o'r smotyn gan Matthew Lund.

Kevin Feely oedd yr arwr i Gasnewydd, wrth i'w beniad hedfan dros y golwr gyda dwy funud yn weddill i chwarae.

Mae Casnewydd yn gorffen yn y 14eg safle ar ddiwedd y tymor, gyda'u lle yn yr Ail Adran yn ddiogel ar gyfer y tymor nesaf.

Straeon perthnasol