Prif athrawon yn galw am sefydlu grŵp rheoli arholiadau
- Cyhoeddwyd

Mae grŵp o brif athrawon yn galw am sefydlu grŵp i reoli arholiadau yng Nghymru cyn gynted a phosib.
Mae'r grŵp am weld llywodraeth Cymru yn deddfu er mwyn sefydlu rheoleiddiwr arholiadau annibynnol.
Byddai hynny'n golygu bod gan Gymru farnwr niwtral i benderfynu ar unrhyw ffrae dros safonau.
Bydd y mater yn cael ei drafod yng nghynhadledd flynyddol Cymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon, sy'n cael ei gynnal yn Birmingham ddydd Sul.
Ffrae TGAU
Daw'r alwad yn fuan wedi ffrae ynghylch papurau arholiad TGAU Saesneg yng Nghymru, gafodd farciau is na'r disgwyl.
Ysgrifennodd y prif athrawon at y gweinidog addysg i ddweud bod y canlyniadau wedi effeithio hyder pobl yn y system arholi.
Prif athro o Sir y Fflint, Mark Biltcliffe, fydd yn cyflwyno'r cynnig ddydd Sul.
"Mae hi wedi achosi embaras wrth orfod ateb cwestiynau negyddol gan gyd-weithwyr yn Lloegr am y ffordd mae'r system arholi yng Nghymru yn cael ei ddatblygu," meddai.
"Beth mae'n rhaid i lywodraeth Cymru wneud rŵan yw cyflwyno mesur i sefydlu rheoleiddiad annibynnol o'n system arholi newydd.
"Heb ddiogelwch archwiliad annibynol rydyn ni'n gadael ein hunain yn agored i'r honiad na allwn redeg y sioe."
Mae'r BBC wedi gofyn i lywodraeth Cymru ymateb.
Straeon perthnasol
- 1 Ebrill 2014
- 7 Mawrth 2014
- 6 Mawrth 2014