Connacht 15 - 22 Gleision

  • Cyhoeddwyd
Connacht v Gleision

Daeth y Gleision yn ôl i guro Connacht o 22 - 15 yn y Pro12 ddydd Sadwrn.

Cafodd y Cymry cais gosb a dau gais ychwanegol gan Lewis Jones a Dan Fish i sicrhau eu pedwaredd buddugoliaeth yn olynol yn y Pro12.

Roedd hi'n ddiweddglo siomedig i aelodau tîm Connacht oedd yn chwarae eu gem gartref olaf i'r clwb, Gavin Duffy, Dan Parks, Frank Murphy ac Eoin Griffin.

Y tîm cartref aeth ar y blaen i ddechrau, wrth Matt Healy sgorio cais i roi Connacht ar y blaen o 10 - 3 ar yr egwyl.

Aeth Robbie Henshaw dros y llinell yn gynnar yn yr ail hanner i ymestyn y bwlch, ond llwyddodd dau gais o fewn tair munud i'r Gleision i newid y gêm.

Cafodd y ciciau eu trosi gan Gareth Davies, cyn i Fish dorri drwy amddiffyniad Connacht i sgorio a rhoi'r fuddugoliaeth i'r Gleision.