BBC Cymru Fyw

Arestio dyn o Bort Talbot am 'negeseuon sarhaus'

Published
image captionCafodd Ann Maguire ei thrywanu i farwolaeth mewn ysgol yn Leeds ddydd Llun
Mae dyn 42 oed o Bort Talbot yn ne Cymru wedi ei arestio yn ymwneud â honiadau o yrru negeseuon sarhaus yn dilyn marwolaeth athrawes mewn ysgol yn Leeds.
Mae dyn 21 oed o Leeds wedi ei gyhuddo o'r un drosedd.
Cafodd Ann Maguire, 61, ei thrywanu i farwolaeth yng Ngholeg Corpus Christi ddydd Llun.
Mae bachgen 15 oed wedi ei gyhuddo o'i llofruddio.
Mae disgwyl iddo ymddangos o flaen llys ym mis Tachwedd.