Luke Charteris i ddychwelyd i Gymru o Perpignan?
- Cyhoeddwyd

Mae clo Cymru, Luke Charteris "yn debygol" o adael clwb Ffrengig Perpignan wedi iddyn nhw ddisgyn allan o gynghrair y Top 14.
Yn ôl asiant y chwaraewr, sy'n 31 oed, gall Charteris ddychwelyd i un o'r rhanbarthau yng Nghymru.
"Rydyn ni'n edrych ar opsiynau yn Ffrainc ac efallai Cymru," meddai Christian Abt.
Mae'r dyfalu yn parhau am un arall o chwaraewyr Perpignan, James Hook.
Symudodd Charteris o'r Dreigiau i'r Catalaniaid cyn tymor 2012-13, ar ôl iddo wneud argraff dda yng Nghwpan y Byd yn 2011. Mae 46 cap Charteris i Gymru yn cynnwys pob un o'r saith gem yn y gystadleuaeth yn 2011.
Dywedodd Abt bod Charteris "yn debygol o adael USAP [Perpignan] os allwn ni sicrhau clwb yn y Top 14 neu yn ôl yng Nghymru - does dim byd wedi ei gadarnhau".
Disgynnodd Perpignan o uwchgynghrair Ffrainc ar ôl eu colled o 25-22 yn erbyn Clermont Auvernge, wrth i glwb Oyonnax ennill pwynt bonws yn erbyn Brive.
Mae partner Charteris yn yr ail reng, Romain Taofifenua, eisoes wedi cytuno i ymuno gyda Toulon.
Ymunodd Hook a Perpignan o'r Gweilch y tymor cyn i Charteris arwyddo cytundeb tair blynedd yn 2012.
Mae cytundeb Hook yn parhau tan 2017, ond mae Perpignan yn wynebu lleihad yn eu hincwm yn ail adran rygbi Ffrainc y flwyddyn nesaf.
Straeon perthnasol
- 23 Rhagfyr 2012
- 15 Rhagfyr 2011