Caerdydd: 'Tymor newydd cyfle newydd'
- Cyhoeddwyd

Mae cefnogwyr Caerdydd wedi galw ar berchennog y clwb, Vincent Tan i ddechrau cyfnod newydd gyda'r cefnogwyr.
Disgynnodd Caerdydd o'r Uwchgynghrair yn dilyn eu colled o 3-0 i Newcastle brynhawn Sadwrn.
Mewn datganiad, mae Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Dinas Caerdydd yn gofyn i Mr Tan ddechrau "deialog cyson ac ystyrlon" gyda chefnogwyr.
Yn y gorffennol, mae Mr Tan wedi galw ar gefnogwyr i ymddiheuro am eu hagwedd tuag ato.
'Cyfle i'r perchennog'
Ers prynu'r clwb, mae Mr Tan wedi achosi sawl ffrae gyda chefnogwyr, y mwyaf efallai am iddo newid lliw crysau'r tîm o las i goch ar ddechrau tymor 2012/13.
Mewn datganiad, dywed cadeirydd yr Ymddiriedolaeth, Tim Hartley, bod "tymor a ddechreuodd gyda chymaint o obaith ar ben".
Mae'n dweud ei fod yn "gyfle i'r perchennog, Vincent Tan, ddechrau cyfnod newydd gyda chefnogwyr y clwb pêl-droed yma".
"Mae hynny'n golygu dechrau deialog cyson ac ystyrlon gyda ffans a grwpiau cefnogwyr.
"Un weithred y dylai gyflawni ar unwaith yw cyhoeddi mai glas fydd lliw crysau cartref unwaith eto ac y bydd y bathodyn traddodiadol yn cael ei ddefnyddio eto.
"Os yw Mr Tan yn parhau i anwybyddu dymuniadau'r cefnogwyr, mae'n anochel y bydd protestiadau yn parhau'r tymor nesaf, gan fychanu'r ymgyrch i ddychwelyd i'r Uwchgynghrair ar y cyfle cyntaf.
"Rydym yn edrych ymlaen at gael cwrdd â Mr Tan cyn gynted a phosib."
'Dim newid'
Yn siarad ym mis Chwefror, dywedodd Mr Tan y dylai rhai cefnogwyr ymddiheuro iddo.
Dywedodd ar y pryd: "Hebdda i byddai Caerdydd wedi mynd allan o fusnes.
"Oherwydd fy muddsoddiad i, fe gawson ni ein dyrchafu."
Ar y pryd, roedd yn sicr hefyd na fyddai'n newid y crysau yn ôl i goch.
"Does yna ddim peryg y byddai'n newid o'n ôl i las o dan fy mherchnogaeth i," meddai.
"Falle y gallan nhw ddod o hyd i berchennog sy'n hoffi glas, talu a fy mhrynu i allan o'r clwb."
Bydd Caerdydd yn chwarae gêm olaf y tymor ar Fai 11 yn erbyn Chelsea.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Mawrth 2014
- Cyhoeddwyd23 Mawrth 2014
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2014