Pontypridd yn ennill Cwpan Swalec

  • Cyhoeddwyd
PontypriddFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Pontypridd 21-8 Cross Keys

Mae Pontypridd wedi sicrhau'r dwbl am yr ail dymor yn olynol gyda buddugoliaeth yn rownd derfynol Cwpan Swalec dros Cross Keys yn Stadiwm y Mileniwm.

Sgoriodd James Howe a Gavin Dacey geisiau i enillwyr yr Uwchgynghrair, a daeth 11 o bwyntiau o droed Simon Humberstone.

Sgoriodd Cross Keys gais drwy Nathan Trowbridge, a chiciodd Dorian Jones gic cosb.

Ni chafodd cais hwyr ei roi i Cross Keys, ar ôl i'r bel fynd ymlaen, a methodd y cefnwr Steffan Jones bedwar cic at y pyst.

Merthyr Tudful 29 - 26 Rhiwbeina

Merthyr oedd buddugwyr y Plât wrth iddyn nhw guro Rhiwbeina o 29-26.

Brett Chatwin a Sion Summers sgoriodd ceisiau cynnar i Riwbeina, ond daeth pŵer Merthyr yn amlwg wrth i Owen Morgan, Josh Flye, Osian Davies a Gareth Way groesi'r llinell.

Rhoddodd ceisiau gan Louis Miller a Chatwin eto obaith i Riwbeina, ond doedden nhw methu a chyrraedd y nod erbyn y diwedd.

Clwb Rygbi Cymry Caerdydd 16 - 10 Llanilltud Fawr

Clwb Rygbi Cymry Caerdydd enillodd y Bowlen, yn gêm gyntaf y diwrnod yn y Stadiwm.

Sgoriodd Paul Davies gais ac ychwanegodd Oliver Jenkins 11 o bwyntiau gyda'i droed.

Prop Llanilltud Fawr sgoriodd eu cais, gyda Ryan Evans yn ychwanegu'r pwyntiau.