Dyn yn yr ysbyty wedi 'ffrwydrad'

  • Cyhoeddwyd
Dolgellau
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd injân dân ei galw i'r digwyddiad ddydd Sul

Mae dyn yn ei ugeiniau wedi cael ei gludo i'r ysbyty mewn hofrennydd o Ddolgellau.

Roedd hyn yn dilyn adroddiadau bod ffrwydrad wedi digwydd mewn tŷ yn y dref.

Credir fod y dyn wedi dioddef anafiadau i'w goes, ond dywedodd Heddlu'r Gogledd nad oedd yr anafiadau yn peryglu ei fywyd.

Fe wnaeth criwiau o'r heddlu, y gwasanaeth tân a pharafeddygon ymweld â'r safle ar ôl cael eu galw am tua 6:25yh ddydd Sul.

Mae Heddlu'r Gogledd yn parhau i ymchwilio i'r digwyddiad.