Pleidiau llai am wneud eu marc
- Cyhoeddwyd

Mae nifer o'r pleidiau llai sy'n brwydro yn yr etholiadau Ewropeaidd yn gobeithio y bydd y cyfnod ymgyrchu yn rhoi hwb iddyn nhw.
Mae 11 o bleidiau i gyd yn ceisio am un o'r pedair sedd Ewropeaidd sydd ar gael yng Nghymru, gyda safbwyntiau o bob pegwn o'r sbectrwm gwleidyddol yn cael eu cynrychioli.
Dyfodol Prydain o fewn yr Undeb Ewropeaidd (UE) yw canolbwynt ymgyrch y Blaid Werdd, y sosialwyr, y comiwnyddion a'r asgell dde eithafol.
Fe ddaeth y Gwyrddion yn chweched yng Nghymru yn etholiad Ewropeaidd 2009 gyda thua hanner nifer y pleidleisiodd y cafodd y Democratiaid Rhyddfrydol, oedd yn bedwerydd.
Yn ôl arweinydd y blaid yng Nghymru, Pippa Bartolli, mae diffyg atebolrwydd democrataidd o fewn yr UE.
"Rydym eisiau sefyll yn erbyn diddordebau corfforaethol Ewrop a mynd yn ôl at ddemocratiaeth ac Ewrop ar gyfer y rhanbarthau oherwydd allwch chi ddim cael un rheol ar gyfer popeth," meddai.
Ychwanegodd ei bod yn credu y byddai Cymru yn lle "creulonach" heb yr UE.
Y BNP ddaeth yn seithfed yn yr etholiad diwethaf, yn dynn ar sodlau'r Gwyrddion. Chafon nhw ddim sedd yng Nghymru ond fe gafon nhw ddwy yn Lloegr am y tro cyntaf.
Mike Whitby sydd ar frig eu rhestr ymgeiswyr, a dywedodd: "Ein neges ni yw mai pobl Cymru ddylai reoli Cymru.
"Ar hyn o bryd mae'r senedd yn cael ei rheoli gan dramorwyr, ymyrwyr a meibion a merched y bobl yno ac mae'r rhan fwyaf yn filiwnyddion. Dydyn nhw ddim yn bobl go iawn."
Dywedodd hefyd ei fod yn credu fod y rheiny sydd mewn grym eisiau "dinistrio" pobl Prydain.
Mae No2EU yn grwp asgell chwith sy'n deillio o gytundeb rhwng y Blaid Gomiwnyddol Prydain ac Undeb Cenedlaethol y Gweithwyr Rheilffordd, Morwrol a Thrafnidiaeth (RMT).
Maen nhw'n credu bod yr UE yn achosi niwed i hawliau gweithwyr a gwasanaethau cymdeithasol.
Dywedodd eu prif ymgeisydd, Robert Griffiths: "Mae'r rhan fwyaf o bleidiau'n cymryd safbwyntiau sy'n gefnogol i'r UE ond mi rydym ni'n glir iawn - mae'n glwb gwrth-ddemocrataidd ar gyfer busnesau mawr.
"Dyna mae cyfradd uchel o'r chwith ac o'r canol wedi ei gredu yn draddodiadol ym Mhrydain.
"Yn anffodus does dim llawer o gyfle yn y wasg i gyflwyno'r achos a dydyn ni ddim yn credu y dylai'r achos gwrth-UE gael ei ddominyddu gan y dde a'r dde eithafol."
Mae'r Blaid Lafur Sosialaidd hefyd yn gwrthwynebu'r UE. Mae eu polisïau eraill yn cynnwys rhoi'r gorau i ynni niwclear, dod a diweithdra i ben a gwladoli'r banciau.
Eu prif ymgeisydd yw Andrew Jordan, a ddywedodd: "Mae'r Undeb Ewropeaidd wedi tanseilio ac mae'n ceisio cael polisïau wedi eu pennu yn lle democratiaeth, rhywbeth sydd wedi arwain at ddiweithdra anferth.
"Mi fydd pleidiau eraill yn yr etholiad hwn yn parhau gyda pholisïau llymder yr Undeb Ewropeaidd. Dim ond y Blaid Lafur Sosialaidd sy'n ceisio dod a ffyniant i gymunedau ledled Cymru."
Mae'r Socialist Party of Great Britain yn dweud eu bod o blaid "sosialaeth go iawn", gan honni bod y prif bleidiau yn torri eu haddewidion ac yn fodlon derbyn cymdeithas annheg.
Dywedodd un prif ymgeisydd, Brian Johnson: "Yr hyn mae'r blaid sosialaidd yn gredu ynddo yw byd heb wladwriaethau, heb ddosbarth, heb arweinwyr a heb arian, gyda mynediad am ddim i fodd o fyw a chynhyrchu ar raddfa fyd-eang.
"Dyw system o'r fath ddim yn mynd i weithredu ar raddfa genedlaethol neu Ewropeaidd. Rydym yn edrych tu hwnt i Ewrop, yn edrych ar y blaned yn y ffordd fwyaf llawn."
Mae Britain First yn disgrifio'i hun fel plaid "genedlaetholgar" a "sefydliad amddiffyn strydoedd".
Dywedodd ei chadeirydd, Paul Golding: "Dyw hynny ddim yn gwneud gwahaniaeth oherwydd mae ein pobl ni, y bobl Brydeinig, yn mynd i fod yn lleiafrif yn ein gwlad ein hun mewn ychydig o flynyddoedd ac mae hynny'n broblem fawr ac rydym yn sefyll yn yr etholiad yma er mwyn tynnu sylw at hynny."
Mae'r Comisiwn Etholiadol wedi ymddiheuro am adael i'r blaid defnyddio enw'r milwr gafod ei lofruddio, Lee Rigby, ar y papurau pleidleisio.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Ebrill 2014