Arestio dyn ar amheuaeth o lofruddio

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 27 oed o Gasnewydd wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio, wedi i gorff dynes 21 gael ei ddarganfod.

Cafodd Heddlu Gwent eu galw i gyfeiriad ar stryd Bryn Bevan am 11:15 fore Llun.

Fe ddaeth eu swyddogion o hyd i gorff y ddynes, ac mae'r dyn gafodd ei arestio bellach dan glo tra bod ymchwiliad yn cael ei gynnal.

Dywedodd y Ditectif Prif Arolygydd Roger Fortey: "Mae hwn yn ddigwyddiad trasig ac rwy'n awyddus i roi sicrwydd i drigolion lleol fod popeth yn cael ei wneud er mwyn ceisio sefydlu'r amgylchiadau mewn cysylltiad â'r farwolaeth.

"Dydyn ni ddim yn chwilio am unrhyw un arall mewn perthynas â'r digwyddiad.

"Mae swyddogion yn y cyfeiriad ac rydym am i drigolion sy'n pryderu siarad efo nhw yn uniongyrchol."

Ychwanegodd y gallai unrhyw aelod o'r cyhoedd sydd â gwybodaeth am y mater ffonio'r heddlu ar 101.

Mae'r crwner wedi cael gwybod am y digwyddiad a bydd prawf post mortem yn cael ei gynnal er mwyn ceisio darganfod achos y farwolaeth.