Mwy yn gwneud chwaraeon nag erioed

  • Cyhoeddwyd
Llundain 2012Ffynhonnell y llun, BBC Sport
Disgrifiad o’r llun,
Mae rhai'n dadlau bod cynnal y Gemau Olympaidd yn Llundain yn 2012 wedi arwain at gynnydd yn nifer sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon

Mae ystadegau newydd yn dangos fod mwy o oedolion yn cymryd rhan mewn chwaraeon yng Nghymru nag erioed o'r blaen.

Mae hyn er gwaetha'r ffaith nad oes cynnydd i weld wrth edrych ar y DU yn ei gyfanrwydd, yn ôl y corff wnaeth gynnal yr arolwg, Chwaraeon Cymru.

Rhyw 29% o'r boblogaeth dros 18 oedd yn gwneud chwaraeon o leiaf dair gwaith yr wythnos yn 2008, ond erbyn 2012 roedd hynny wedi cynyddu i 39%.

Dywedodd prif weithredwr Chwaraeon Cymru, Sara Powell: "Mae hyn yn newyddion positif a chyffrous iawn ar gyfer chwaraeon yng Nghymru. Mae'r cynnydd i'w weld ar gyfer y bob oed, o 15 i'r rhai dros 65.

"Mae hyn yn wahanol iawn i'r hyn rydyn ni'n weld yng ngweddill y DU ac yn cynrychioli gwelliant sylweddol mewn be sydd wedi bod yn set o ffigyrau sydd wedi bod yn llonydd yn hanesyddol.

"Mae'r canlyniadau yma'n dangos yn glir fod ffocws cyson a chlir Chwaraeon Cymru dros y 10 i 15 mlynedd diwethaf wedi gweithio. Rydym, drwy ein rhaglenni ysgolion, wedi bod yn gwneud yn siŵr fod y profiadau cyntaf hollbwysig yno yn bositif.

"Mae'r gwelliannau sy'n cael eu dangos yn yr arolwg yn bennaf yn ganlyniad i gadw pethau'n syml yng Nghymru - buddsoddi mewn sefydliadau, ysgolion a chlybiau, datblygu hyfforddwyr a gwirfoddolwyr a chreu'r profiadau cywir, y cyfleoedd cywir a'r amgylchiadau cywir i alluogi pobl i ddysgi i garu chwaraeon."

Ychwanegodd Ms Powell: "Mae yna fwy i'w wneud wrth gwrs. Mae'r arolwg yn tynnu sylw at y grwpiau sy'n llai tebygol o gymryd rhan yn gyson - merched a phobl o ardaloedd difreintiedig, er enghraifft - a dyna pam rydym newydd lansio Galw am Weithredu, £3 miliwn ar gyfer pobl sydd yn gallu darparu gweithgareddau positif."

Mae'r ystadegau yn dangos cynnydd yn nifer yr oedolion sy'n nofio, rhedeg, seiclo ac yn chwarae gemau fel pêl-droed a golff.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol