Hofrennydd yn cludo dyn i'r ysbyty
- Cyhoeddwyd
Mae hwylfyrddiwr wedi cael ei gludo i Ysbyty Gwynedd mewn hofrennydd.
Roedd y criw o'r Awyrlu Brenhinol allan yn ymarfer pan welon nhw'r dyn mewn trafferthion gerllaw'r Fali.
Dioddefodd y dyn anafiadau i'w ben, ei freichiau a'i ddwylo ar ôl iddo daro'n erbyn creigiau ar draeth Cymyran yn Ynys Môn.
Roedd y ddamwain wedi digwydd am tua 12:40 brynhawn Llun.