Cludo aelodau o gôr i'r ysbyty

  • Cyhoeddwyd
Only Kids Aloud a Bryn TerfelFfynhonnell y llun, Ian Landsberg
Disgrifiad o’r llun,
Bu Only Kids Aloud yn perfformio yn Cape Town gyda Bryn Terfel

Cafodd nifer o aelodau côr Only Kids Aloud eu cludo i'r ysbyty ar ôl mynd yn sâl ar daith o Dde Affrica i Lundain.

Cadarnhaodd Ysbyty Hillingdon yn Llundain bod y plant i gyd wedi ymateb yn dda i driniaeth ac wedi cael gadael yr ysbyty bellach.

Roedden nhw'n teithio ar awyren Emirates o Dubai i Faes Awyr Heathrow.

Dywedodd gwasanaeth ambiwlans Llundain eu bod wedi cael eu galw am 7:41yb yn dilyn adroddiadau bod nifer o'r plant yn sal yn ystod y daith.

Dywedodd yr ysbyty bod y plant i gyd yn diodde' o "ffurf gwan o ddolur rhydd a chwydu" ond eu bod i gyd wedi ymateb yn gyflym i driniaeth.

Aeth pedwar ambiwlans i'r safle ac fe wnaeth y tîm meddygol archwilio 60 o blant rhwng 10 ac 14 oed. Dywedodd y gwasanaeth ambiwlans bod 11 ohonyn nhw wedi cael eu cludo i'r ysbyty.

'Cyflym iawn'

Roedd Bet Davies o Ganolfan y Mileniwm wedi teithio i Dde Affrica gyda'r côr a dywedodd:

"Roedd y meddygon yn dweud y gallai fod rhywun wedi cael 'bug' cyn teithio, neu fe allai fod wedi bod yn gyfuniad o salwch, blinder a pheidio yfed digon.

"Daeth y staff ambiwlans draw i archwilio'r plant rhag ofn ac i wneud yn siŵr nad oedden nhw'n dod â haint i mewn i'r wlad."

Ymhlith y rhai fu'n sâl oedd y ddwy chwaer Tanwen ac Efa Cray - 13 ac 11 oed.

Dywedodd Tanwen: "Fe ddigwyddodd e'n gyflym iawn. Yn sydyn roedd tua 30 o bobl yn sâl o 'nghwmpas i.

"Roedd staff yr awyren yn mynd o gwmpas yn rhoi bagiau chwydu i bobl, ac roedd ciwiau hir am y toiledau."

Cafodd y ddwy eu harchwilio gan barafeddygon cyn dychwelyd i Gaerdydd ar fws lle'r oedd eu mam, y gyflwynwraig Angharad Mair, yn disgwyl amdanyn nhw.

Dywedodd hithau: "Roedd y cyfan ychydig yn bryderus, ond mae'n grêt i'w gweld nhw nôl."