Addysg Cyfnod Sylfaen: Llwyddiant amrywiol

  • Cyhoeddwyd
Addysg
Disgrifiad o’r llun,
Fe ddywed yr arolwg bod yr effaith mwyaf positif i'w weld ymhlith plant dosbarthiadau meithrin a derbyn

Mae llwyddiant un o brif bolisïau addysg Llywodraeth Cymru yn dal i fod yn amrywiol dair blynedd ar ôl ei weithredu'n llawn.

Fe ddywed adroddiad gwerthuso diweddaraf y llywodraeth bod y polisi bellach yn cael effaith bositif ar addysg ein plant ieuengaf.

Ond mae pryder ynglŷn â sut mae'r cynllun yn paratoi plant ar gyfer y profion a ddaw yn ystod gweddill eu cyfnod yn yr ysgol.

Nod y Cyfnod Sylfaen yw datblygu gallu plant i feddwl a gwneud hynny drwy ddysgu wrth chwarae.

Mae'n cael ei weld fel un o brif lwyddiannau addysg Llywodraeth Cymru ers ei gyflwyno yn 2008. Cafodd ei roi ar waith yn gyflawn yn 2011.

Penaethiaid yn amheus

Mae'r gwerthusiad o'r polisi ar ran Llywodraeth Cymru yn nodi bod y mwyafrif o athrawon o'r farn ei fod yn llesol i addysg y disgyblion rhwng tair a saith oed.

Ond, medd yr adroddiad, "roedd llai o gytundeb ynghylch effaith y Cyfnod Sylfaen ar lythrennedd, rhifedd a phlant breintiedig neu 'fwy abl a dawnus' (er bod hyn yn gadarnhaol o hyd)".

Mae'r adroddiad gwerthuso yn defnyddio 604 o ymatebion gan ysgolion a lleoliadau i arolwg, 1,008 o ymatebion gan rieni/gofalwyr i arolwg, 37 cyfweliad gydag awdurdodau lleol a 357 o gyfweliadau gydag ymarferwyr yn y maes addysg.

Un pryder i Lywodraeth Cymru oedd mai'r grŵp oedd yn aml yn fwyaf amheus o'r cynllun oedd penaethiaid, ac roedd athrawon dosbarthiadau meithrin a derbyn yn adrodd effaith fwy cadarnhaol nag athrawon Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2.

Roedd yna deimlad hefyd y gallai'r nifer uchel o athrawon sydd ei angen fynd yn groes i'r nod o fagu dysgu annibynnol yn y plant.

Wrth groesawu'r adroddiad dywedodd y Gweinidog Addysg Huw Lewis ei fod yn dangos sut mae'r cyfnod sylfaen yn gwneud gwahaniaeth i'n disgyblion ieuengaf.