Cyrff milwyr yn ôl ym Mhrydain
- Cyhoeddwyd

Mae cyrff dau filwr o Gymru, a oedd ymhlith pump i farw mewn damwain hofrennydd yn Afghanistan, wedi cyrraedd yn ôl i Brydain.
Bu farw un o'r peilotiaid, y Capten Thomas Clarke, 30, o'r Bontfaen, a'r Is-gorporal Oliver Thomas, 26, o Aberhonddu, ar 26 Ebrill.
Cyrhaeddodd awyren yn cludo'r cyrff faes awyr milwrol Brize Norton am 1:44yh.
Mae ymchwiliad wedi dechrau i beth achosodd i'r hofrennydd Lynx ddisgyn yn nhalaith Kandahar.
Bydd gwasanaeth coffa arbennig yn cael ei gynnal yn Brize Norton am 2:30yh.
Bu teyrngedau i'r ddau yn Nhŷ'r Cyffredin yr wythnos ddiwethaf gan y Prif Weinidog David Cameron a gan aelod seneddol Brycheiniog a Maesyfed Roger Williams - roedd yr Is-gorpral Thomas yn gweithio fel ymchwilydd iddo tra'n aelod o'r fyddin diriogaethol wrth gefn.
Dywedodd David Cameron bod y marwolaethau yn "ein hatgoffa o'r colledion yr ydyn ni wedi eu hwynebu yn Afghanistan".
Dywedodd Mr Williams bod Oliver Thomas yn "ŵr ifanc arbennig yr oedd pawb yn hoff ohono, ac yn cael ei barchu gan bawb oedd yn ei adnabod ac yn gweithio gydag o".
Rhoddodd arweinydd y blaid Lafur, Ed Miliband, deyrnged i'r rhai fu farw hefyd.
Straeon perthnasol
- 30 Ebrill 2014
- 28 Ebrill 2014