'Methiannau sylweddol' mewn ysbyty
- Cyhoeddwyd
Mae ymchwiliad i gŵynion yn erbyn ysbyty yn Sir y Fflint wedi canfod "methiannau sylweddol" yng ngofal dau glaf.
Cyhoeddwyd ym mis Awst y byddai'r ymchwiliad yn cael ei gynnal i gŵynion hanesyddol i ddigwyddiadau yn Ysbyty Cymunedol Glannau Dyfrdwy wedi i rai staff gael eu gwahardd o'u dyletswyddau gofal.
Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn trafod yr adroddiad ddydd Mawrth.
Datgelwyd hefyd bod 75 o gŵynion yn erbyn y bwrdd yn cael eu hystyried gan yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus.
Yn achos Ysbyty Glannau Dyfrdwy cafodd ymchwiliad ei lansio mewn perthynas â gofal claf oedrannus yn 2004, ac roedd Heddlu'r Gogledd, yr Arolygiaeth Gofal Iechyd ac adran gwasanaethau cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint yn rhan o'r ymchwiliad.
Gwella
Yn yr adroddiad dywedodd cyfarwyddwr nyrsio Betsi Cadwaladr, Angela Hopkins: "Yn ystod yr adolygiad fe wnaeth y panel ganfod methiannau sylweddol yn y gofal a ddarparwyd i'r ddau glaf."
Cafodd y panel sicrwydd bod mesurau diogelwch wedi gwella, ac nad oedd "unrhyw bryderon ffurfiol wedi cael eu cofnodi ar safle Glannau Dyfrdwy ers mis Mawrth".
Ychwanegodd Ms Hopkins: "Mae'r safle bellach wedi gweithredu mwyafrif yr argymhellion oedd yn yr adroddiad ac mae'r broses o greu cynllun gweithredu ar gyfer monitro tymor hir o'r argymhellion bellach ar waith."
Fe fydd adroddiad arall sy'n cael ei ystyried gan y bwrdd iechyd ddydd Mawrth yn datgelu bod yr Ombwdsmon yn ystyried 75 o gŵynion yn ei erbyn.
Dywed yr adroddiad bod 58 o achosion yn disgwyl ymateb yr Ombwdsmon, gyda'r bwrdd yn paratoi ei ymateb i 17 arall.