Apêl gan heddlu wedi gwrthdrawiad
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth yn dilyn gwrthdrawiad ddigwyddodd nos Lun.
Bu car Rover MG mewn gwrthdrawiad â choeden ar ffordd yr A4048 yn Ynysddu ger y Coed Duon am tua 11:55yh.
Cafodd y ddau berson lleol oedd yn teithio yn y car - menyw 20 oed a dyn 21 oed - eu cludo i Ysbyty Brenhinol Gwent gydag anafiadau difrifol.
Mae'r ddau yn parhau yn yr ysbyty mewn cyflwr sefydlog.
Cafodd y ffordd ei chau am gyfnod wedi'r digwyddiad, ond mae bellach wedi ailagor.
Dim ond un cerbyd oedd yn rhan o'r gwrthdrawiad ac mae Heddlu Gwent yn awyddus i glywed gan unrhyw un a welodd y digwyddiad.
Dylai pobl all fod o gymorth i'r ymchwiliad ffonio'r heddlu ar 101, gan nodi'r cyfeirnod 594 05/05/14.