Cyhuddo llanciau 13 a 14 oed o ddwyn

  • Cyhoeddwyd

Mae Heddlu De Cymru ym Mro Morgannwg wedi cyhuddo tri llanc mewn perthynas â lladrad o gartref menyw oedrannus.

Digwyddodd y lladrad yn Llanilltud Fawr ar ddydd Iau, Mai 1.

Mae dau lanc - 13 a 14 oed - wedi cael eu cyhuddo o fyrgleriaeth a llanc arall 13 oed wedi ei gyhuddo o fod â nwyddau wedi'u dwyn yn ei feddiant.

Bydd asesiad yn cael ei wneud ar lanc arall 14 oed.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Sue Sidford: "Roedd hwn yn ddigwyddiad brawychus i'r fenyw oedrannus, ac fe gafodd natur gyfeillgar ac ymddiriedus y fenyw ei gam-drin gan y tri llanc yma.

"Mae troseddau fel hyn yn brin yn yr ardal yma a hoffwn bwysleisio y byddwn yn gweithredu'n gyflym i ddarganfod y rhai sy'n gyfrifol am droseddau o'r fath."