Radio Wales: Dim ymchwiliad OFCOM

  • Cyhoeddwyd
BBC Radio Wales

Mae'r corff sy'n arolygu darlledu, OFCOM, wedi cadarnhau na fyddan nhw'n ymchwilio i rifyn o Morning Call ar BBC Radio Wales fu'n trafod yr iaith Gymraeg.

Yn ei fwletin diweddaraf mae OFCOM wedi rhestru'r rhaglen fel "cwynion wedi eu hasesu ond heb eu hymchwilio".

Fe dderbyniodd OFCOM 31 o gŵynion am y rhaglen.

Cyn y rhaglen roedd cynhyrchwyr Morning Call wedi trydar y neges "Do you find the Welsh language irritating? Why?" ar wefan Twitter.

Cafodd y neges a'r drafodaeth radio eu beirniadu gan nifer ar y wefan gymdeithasol.

Y diwrnod canlynol fe wnaeth y BBC ymddiheuro am eiriad y neges wreiddiol.

Dywedodd llefarydd ar ran OFCOM: "Ar ôl asesu'r deunydd yn ofalus, penderfynodd OFCOM nad oedd y rhaglen wedi mynd yn groes i'r Cod Darlledu.

"Er bod rhai gwrandawyr wedi teimlo bod barn rhai am yr iaith Gymraeg yn sarhaus, penderfynodd OFCOM bod cyfiawnhad i unrhyw drosedd yng nghyd-destun y drafodaeth i beidio torri'r rheolau."

'Trafodaeth gytbwys'

Roedd y drafodaeth ar Morning Call wedi ei hysgogi yn dilyn cwynion fod gweithiwr mewn siop yng Nghaerdydd wedi gwneud sylwadau negyddol ynglŷn â sut oedd yr iaith yn swnio, gan ddweud ei fod wedi rhoi'r gerddoriaeth yn uwch yn y siop o ganlyniad i glywed cwsmeriaid yn siarad yr iaith.

Wrth ymateb i'r cwynion am y rhaglen, fe ddywedodd llefarydd ar ran BBC Cymru: "Mae Morning Call yn gyfle i wrandawyr Radio Wales gymryd rhan mewn trafodaeth amserol ar faterion o'r newyddion sydd yn aml yn rhai dadleuol.

"Fe wnaeth y rhaglen ei hun gyflwyno trafodaeth gytbwys dros gyfnod o awr, gan leisio nifer eang o safbwyntiau.

"Fodd bynnag, cafodd un o'r negeseuon Twitter a anfonwyd cyn y rhaglen ei geirio yn wael ac nid oedd yn adlewyrchu yn ddigonol bwriad golygyddol y rhaglen.

"Yn naturiol, rydym yn ymddiheuro am unrhyw bryder a achoswyd gan y neges hon."