Cydnabod 'cyfraniad neilltuol'

  • Cyhoeddwyd
Steve EavesFfynhonnell y llun, Martin Elliott
Disgrifiad o’r llun,
Derbyniodd Steve Eaves ei ddoethuriaeth er anrhydedd gan y Brifysgol Agored ddydd Sadwrn

Mae'r canwr a'r awdur Steve Eaves wedi derbyn doethuriaeth er anrhydedd gan y Brifysgol Agored am ei "gyfraniad neilltuol i ddiwylliant a'r iaith Gymraeg".

Roedd ymysg 250 o fyfyrwyr ledled Cymru a dderbyniodd eu graddau yn seremoni'r Brifysgol Agored yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd ddydd Sadwrn.

Daeth Mr Eaves, sydd o Stoke-on-Trent yn wreiddio, yn rhugl yn y Gymraeg tra'n fyfyriwr ym Mhrifysgol Llanbed, a bu'n byw yn ardal Rhiwlas ger Bangor am dros 35 o flynyddoedd bellach.

Mewn gyrfa sydd wedi para 40 mlynedd, mae Steve Eaves wedi cyhoeddi 10 albwm o gerddoriaeth a dwy gyfrol o farddoniaeth.

Roedd ei waith cynnar yn enwedig yn nodedig am ei gynnwys gwleidyddol gyda hanesion am y dosbarth gweithiol a hefyd am ei ymrwymiad i'r iaith Gymraeg.

'Cyfathrebu ac ysbrydoli'

Wrth dderbyn ei ddoethuriaeth dywedodd Steve Eaves: "Fel credwr cryf yng nghenhadaeth y brifysgol i alluogi cyfiawnder cymdeithasol ac agor byd addysg i bwy bynnag allai elwa ohono, rwy'n falch iawn i dderbyn y radd er anrhydedd yma.

"Rwy'n arbennig o falch o gael fy nghysylltu gyda chydnabyddiaeth y Brifysgol Agored o bwysigrwydd y sîn gerddoriaeth gyfoes yn y Gymraeg a barddoniaeth Gymraeg, a'u cyfraniad i gyfoeth diwylliannol Cymru."

Wrth gyflwyno'r ddoethuriaeth iddo dywedodd cyfarwyddwr y Brifysgol Agored yng Nghymru, Rob Humphreys:

"Hyd yn oed mewn cenhedlaeth o awduron talentog mae geiriau Steve yn neilltuol oherwydd eu gallu i gyfathrebu ac ysbrydoli ei gynulleidfa.

"Mae'n baradocs o waith Steve ei fod wedi osgoi amlygrwydd tra'n cael ei edmygu'n fawr gan ei gyfoedion. Byddai llawer yn dweud ei bod yn hen bryd i orchestion Steve gael cydnabyddiaeth ehangach yn gyhoeddus, ac mae'r Brifysgol Agored yn falch o fedru gwneud hynny."