Gwahardd dwy ferch o ysgol am oes
- Cyhoeddwyd

Mae Cyngor Caerffili wedi cadarnhau fod dwy ferch ysgol gafodd eu harestio ar amheuaeth o gynllwynio i ladd athrawes wedi cael eu gwahardd o'r ysgol am oes.
Cafodd y ddwy - 14 a 15 oed - eu harestio wedi i heddlu gael eu galw i Ysgol Uwchradd Cwmcarn yr wythnos ddiwethaf.
Roedd y rhesymau dros arestio'r ferch 15 oed hefyd yn cynnwys amheuaeth ei bod â chyllell yn ei bag ysgol a'i bod wedi gwneud bygythiadau i ladd.
Bydd y ddwy yn cwblhau eu haddysg mewn uned addysg arbennig.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerffili: "Gallwn gadarnhau fod dau ddisgybl wedi cael eu gwahardd yn barhaol ac rydym yn asesu eu hanghenion ar hyn o bryd, cyn argymell darpariaeth addysgol briodol ar gyfer y ddwy ferch."
Canmol yr ysgol
Roedd yr athrawes dan sylw, Alison Cray, wedi canmol yr ysgol am y modd y gwnaethon nhw ddelio gyda'r sefyllfa'n gyflym cyn i'r merched ddod yn agos ati.
Cafodd yr heddlu eu galw i'r ysgol ddydd Iau wedi i ddisgyblion eraill glywed y ddwy yn sôn am gynllun i ladd yr athrawes. Daeth y digwyddiad dridiau yn unig wedi llofruddiaeth athrawes mewn ysgol yn Leeds.
Ychwanegodd Gary Thomas, cadeirydd llywodraethwyr Ysgol Uwchradd Cwmcarn: "Fe gafodd pryderon eu tynnu at sylw'r corff llywodraethol ac rydym yn falch o'r modd y deliwyd yn gyflym gyda'r mater gan bawb.
"Mae mesurau clir, polisïau a gweithdrefnau mewn lle i sicrhau bod pawb yn ddiogel.
"Rwy'n falch o'r ysgol, ac yn enwedig y modd y mae disgyblion wedi cael eu haddysgu i fod yn gyfrifol ac adrodd unrhyw bryderon yn syth.
"Hoffwn ddiolch hefyd i'r rhieni am y galwadau cefnogol a phositif yr ydym wedi eu derbyn."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Mai 2014
- Cyhoeddwyd2 Mai 2014