Jones yn gadael y Gweilch yn fuan
- Cyhoeddwyd

Mae Ryan Jones wedi ymuno â Bryste'n gynnar, er mwyn ceisio helpu ei glwb newydd i ennill dyrchafiad i Uwchgynghrair Lloegr.
Roedd cyn gapten Cymru wedi bwriadu gadael y Gweilch ddiwedd y tymor ond mae wedi cael caniatâd i adael yn gynnar gan fod pwynt Ulster yn erbyn Leinster yr wythnos ddiwethaf wedi rhoi diwedd i obeithion y Gweilch o ennill y Pro12.
Mae disgwyl i Jones, 33, chwarae yn erbyn Rotherham yng nghymal cyntaf rownd gynderfynol y gemau ail gyfle ddydd Sadwrn.
Fe arwyddodd y clo gytundeb dwy flynedd gyda Bryste ym mis Mawrth.
Dywedodd y clwb mewn datganiad: "Mi fyddai Rygbi Bryste'n hoffi diolch i'r Gweilch am eu cydweithrediad trwy gydol y broses hon."
Mewn neges ar wefan gymdeithasol, dywedodd Jones ei fod yn "ymddiheuro i gefnogwyr y Gweilch am beidio dweud ffarwel".
Os yw clwb newydd Jones yn fuddugol yn erbyn Rotherham, mi wnawn nhw wynebu naill ai Cymry Llundain neu Leeds Carnegie er mwyn penderfynu pa glwb fydd yn chwarae yn Uwchgynghrair Aviva'r flwyddyn nesaf.
Straeon perthnasol
- 24 Mawrth 2014