Dolgellau: Dyn mewn cyflwr difrifol
- Cyhoeddwyd

Mae dyn yn ei ugeiniau yn parhau i gael triniaeth yn yr ysbyty o ganlyniad i ffrwydrad mewn eiddo yn Nolgellau.
Mae ei anafiadau yn cael eu disgrifio fel rhai difrifol ond dyw ei fywyd ddim yn cael ei ystyried i fod mewn perygl.
Yn ôl yr heddlu roedd yr adeilad yn ardal Bro Heulog y dref ac maen nhw wedi cadarnhau mai'r dyn gafodd ei anafu oedd yn byw yn yr eiddo.
Mae'n derbyn triniaeth mewn ysbyty yn Stoke a bydd yr heddlu'n siarad ag ef pan mae'n ddigon da i'w helpu gyda'r ymchwiliad.
Dywedodd y Ditectif Prif Arolygydd Iestyn Davies: "Mae'r ymchwiliad yn y dyddiau cynnar ac rydym yn gweithio gydag arbenigwyr er mwyn ceisio darganfod achos y ffrwydrad.
"Cafodd mân ddifrod ei achosi i eitemau yn iard gefn yr eiddo ond nid i'r adeiladau cyfagos.
"Mae hwn yn ddigwyddiad ynysig ond mi fyddwn i'n croesawu unrhyw wybodaeth gan y cyhoedd yn Nolgellau ynglŷn â beth ddigwyddodd."
Straeon perthnasol
- 5 Mai 2014