Llys: glofa'n llenwi â dŵr mewn eiliadau

  • Cyhoeddwyd
Garry Jenkins, Philip Hill, Charles Breslin a David Powell
Disgrifiad o’r llun,
Bu farw Garry Jenkins, Philip Hill, Charles Breslin a David Powell (gyda'r cloc)

Mae llys wedi clywed bod glofa'r Gleision wedi llenwi â dŵr mewn chwech eiliad wedi ffrwydrad o dan ddaear.

Fe osodwyd y ffrwydron yno gan y glowyr.

Dywedodd yr arolygydd iechyd a diogelwch Peter Yoxall wrth Lys y Goron Abertawe fod ffas lle oedd y glowyr yn 60 metr o hyd.

Bu farw David Powell, 50 oed, Charles Breslin, 62, Philip Hill, 44, a Garry Jenkins, 39.

Mae rheolwr y pwll, Malcolm Fyfield, yn gwadu cyhuddiad o ddynladdiad ac mae'r cwmni oedd yn berchen ar y safle, MNS Mining, yn gwadu cyhuddiad o ddynladdiad corfforaethol.

Chwech eiliad

Dywedodd Mr Yoxhall fod 17 tunnell o bwysau'n gwthio'n erbyn ochr arall y wal lle oedd y glowyr yn gosod ffrwydriadau.

Roedd dŵr wedi llifo ar raddfa o 21 milltir yr awr i mewn i'r ardal, meddai, lle oedden nhw'n gweithio.

Dywedodd: "Yr amser gymrodd y dŵr i gyrraedd gwaelod y ffas oedd chwe eiliad."

Ychwanegodd fod 640,000 o alwyni o ddŵr wedi eu pwmpio o'r lofa yn hwyrach.

Clywodd y llys fod y tîm achub yn poeni pa mor effeithiol oedd un o'r pympiau.

Tra oedd un yn pympio 46 o alwyni'r funud am fod llaid yn ei flocio, roedd un trydanol yn pympio 150 o alwyni'r funud.