Pigion y Penwythnos: Mai 3-5
- Cyhoeddwyd
Gobeithio i chi fwynhau ychydig o wyliau dros Ŵyl y Banc. Dyma i chi rai o uchafbwyntiau'r tridiau diwethaf.
Dylan Thomas: Gŵyl Talacharn
Cafodd bywyd a gwaith y bardd Dylan Thomas ei ddathlu yn Nhalacharn dros y penwythnos. Ymhlith uchafbwyntiau Gŵyl Lenyddol Twrw Talacharn y BBC roedd yna gynhyrchiad ar y cyd rhwng y BBC a National Theatre Wales o Raw Material - Llarregub Revisited. Darllenwch adolygiad Karen Price o WalesOnline o'r perfformiad.
Tan tro nesaf: Caerdydd yn ffarwelio â'r Uwchgynghrair
Diflanodd gobeithion clwb pêl-droed Caerdydd o aros yn yr Uwchgynghrair wedi iddyn nhw golli 3-0 yn erbyn Newcastle brynhawn Sadwrn. Teithiau i lefydd fel Bournemouth, Huddersfield ac Ipswich sy'n eu disgwyl y tymor nesaf fel y mae Michael Morris yn cadarnhau ar flog Cardiff City Mad.
Goreuon Gŵyl y Banc
Mae Ffrwti wedi mynd ati i gasglu rhai o luniau Instagram mwyaf trawiadol y penwythnos. Gallwch eu gweld yn eu holl ogoniant ar wefan Ffrwti.com.
Cyw-ion yn Ffoli ar y Fferm
Roedd atyniad Folly Farm ger Dinbych-y-Pysgod dan ei sang ddoe gyda channoedd o ddilynwyr ifanc Cyw ar S4C yn awyddus i weld sioeau arbennig gan eu hoff gyflwynwyr. Gallwch weld rhai o luniau'r diwrnod ar dudalen Facebook Cyw