Troseddwyr i wella'r amgylchedd

  • Cyhoeddwyd
Gweithiwr Ad-dalu Cymuned
Disgrifiad o’r llun,
Gweithiwr Ad-dalu Cymuned

Bydd troseddwyr yng Nghymru yn cyfrannu at ragor o brosiectau bywyd gwyllt ar ôl i waith gael ei gwblhau i wella cynefinoedd arbennig yng Ngwent.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru ar y cyd â Phrawf Cymru yn bwriadu ehangu'r gwaith i ardaloedd eraill yng Nghymru ar ôl y cynllun peilot llwyddiannus ger Cwmbrân.

Bu grwpiau o droseddwyr yn clirio tunelli o sbwriel o lannau afon Llwyd Dowlais, ac o fferm Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent ger Penrallt.

Cliriwyd ardal ar safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig, er mwyn helpu rhai rhywogaethau o blanhigion arbennig.

Bu'r troseddwyr yn gweithio hefyd yn chwarel Dan y Graig ger Rhisga. Y bwriad yno oedd gwella cyfleoedd i fywyd gwyllt a rhoi mynediad gwell i fyfyrwyr daeareg sydd yn astudio'r ardal.

Mae'r troseddwyr sydd yn gweithio ar y prosiectau yma yn cael eu danfon yma gan y llysoedd fel rhan o gynllun "Talu'n Ôl i'r Gymuned."

Dywedodd Ioan Williams, Cyfoeth Naturiol Cymru,

"Mae'r prosiect hwn yn dangos fod gan waith sy'n gwella ein hamgylchedd naturiol, nid yn unig fanteision clir ar gyfer bywyd gwyllt, ond hefyd fanteision ehangach ar gyfer y gymdeithas."

Yn ol Graham Thomas, Rheolwr Datblygu Talu'n ôl i'r gymuned, Prawf Cymru:

"Mae'r prosiect hwn yn enghraifft ragorol o bartneriaeth yn gweithio rhwng Prawf Cymru, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent a Cyfoeth Naturiol Cymru, lle mae troseddwyr wedi gwneud cyfraniad gwerthfawr at wella'r amgylchedd mewn ardal sensitif."