Asgellwr yn symud i'r Scarlets
- Cyhoeddwyd

Mae'r Scarlets wedi cadarnhau y bydd asgellwr y Gleision a Chymru, Harry Robinson, yn ymuno â nhw y tymor nesaf.
Mae Robinson, 20 oed, wedi ymddangos yng nghrys Cymru dair gwaith - unwaith yn erbyn y Barbariaid a dwy gêm yn erbyn Japan.
Fe sgoriodd wyth cais mewn 17 gêm i'r Gleision ar ôl ymddangos am y tro cyntaf iddyn nhw yn nhymor 2012-13.
Dywedodd prif hyfforddwr y Scarlets, Simon Easterby: "Rydym yn credu y bydd Harry'n ffynnu yn yr awyrgylch ifanc ac uchelgeisiol yma, ac fe fydd yn elwa hefyd o chwarae nesaf at ganolwr profiadol fel Regan King [sydd yn dychwelyd i Lanelli].
"Mae'n chwaraewr cyflym iawn ac fe all y cefnogwyr edrych ymlaen at yr hyn y gall ychwanegu i ni y tymor nesaf."
Dywedodd hyfforddwr y Gleision Dale McIntosh: "Mae llawer o hyn i wneud gyda'r sefyllfa ariannol ar hyn o bryd.
"Mae'n fater o flaenoriaethu, ac roedden ni'n wannach mewn mannau eraill ar y cae.
"Rydym yn teimlo i ni wneud ein gorau i'w gadw, ac rwy'n gwybod ei fod e am aros, ond yn anffodus mae'r penderfyniad wedi ei wneud.
"Mae'n gadael gyda'n dymuniadau gorau ni, ac rwy'n gobeithio - yn wir yn gwybod - y bydd e'n gwneud yn dda iawn iawn."