Cyngor Tref Machynlleth yn erbyn newid enw ysgol uwchradd

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Bro Dyfi/Hyddgen
Disgrifiad o’r llun,
Mae ffrae wedi codi yn Machynlleth dros newid enw Ysgol Uwchradd Bro Dyfi

Mae Cyngor Tref Machynlleth wedi penderfynu cefnogi disgyblion Ysgol Uwchradd Bro Dyfi, sydd yn erbyn ail-enwi eu hysgol.

Dros yr haf, mi fydd yr ysgol yno ac Ysgol Gynradd Machynlleth yn cau.

Ym mis Medi mi fyddent yn ail agor wedi eu huno a gyda'r enw newydd, Ysgol Bro Hyddgen.

Mi fydd y cyngor yn ysgrifennu at lywodraethwyr yr ysgol newydd yn ogystal ag aelod cabinet Cyngor Sir Powys dros addysg, gyda'u pryderon am yr enw.

Yn eu cyfarfod nesaf, mi fydd aelodau o'r corff llywodraethu newydd yn cael y cyfle i drafod y sefyllfa gyda'r cynghorwyr.

Pryderon

Meddai dirprwy faer Machynlleth, y cynghorydd Dai Speake: "Mae Hyddgen tua 10 milltir i ffwrdd o Fachynlleth ac mae cynghorwyr yn ategu pryderon y cyhoedd.

"Maen nhw'n credu y dylid cadw enw presennol yr ysgol ac mae cynghorwyr yn poeni am y gost o newid y wisg ysgol."

Yn ôl llywodraethwyr bwriad yr enw newydd yw rhoi teyrnged i Owain Glyndŵr a ymladdodd brwydr Hyddgen yn yr ardal dros 600 mlynedd yn ôl.

Ers cyhoeddi'r enw, mae disgyblion wedi cyhoeddi fideo ar wefan gymdeithasol yn esbonio pam maent yn erbyn y newid.

Enw arwyddocaol?

Ond mae cadeirydd y corff llywodraethu cysgodol, Allan Wynne Jones yn meddwl bod yr enw sydd wedi ei ddewis yn un rhesymol.

"Doedden ni ddim am barhau gydag enw Bro Ddyfi am nad oedden ni am i'r newid awgrymu fod yr ysgol uwchradd yn cymryd yr ysgol gynradd drosodd," meddai.

"Mi fuasai galw'r ysgol yn Dyffryn Dyfi yn gamarweiniol oherwydd ni fyddai yn berthnasol i'r ysgol gynradd chwaith.

"Dewiswyd Hyddgen gan mai yno oedd buddugoliaeth arwyddocaol gyntaf Glyndŵr."

Yn dilyn y newidiadau mi fydd disgyblion o ysgolion cynradd Llanbrynmair, Carno a Glantwymyn yn dechrau yn yr ysgol yn 11 oed.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol