Paul Flynn yn cerdded allan o bwyllgor
- Cyhoeddwyd

Mae'r Aelod Seneddol Llafur Paul Flynn wedi cerdded allan o un o brif bwyllgorau San Steffan - gan hawlio bod y cyfarfod yn ceisio creu embaras annheg i Lywodraeth yr Alban.
Roedd Mr Flynn yn holi pennaeth Gwasanaeth Sifil y DU, Syr Bob Kerslake, ynglŷn â chyhoeddi dogfen sensitif ar undod ariannol. Hawliodd Mr Flynn bod cyhoeddi dogfen sy'n cynnwys cyngor y gwasanaeth sifil yn groes i god ymddygiad y Gwasanaeth Sifil.
Hawliodd Mr Flynn nad oedd cynsail i'r hyn ddigwyddodd - sef i gyngor pennaeth y gwasanaeth sifil ymddangos yn gyhoeddus fel hyn.
Fe adawodd Mr Flynn gyfarfod o'r Pwyllgor Gweinyddiaeth Gyhoeddus ar ôl cais iddo ddod â'i gwestiynnau i ben, ac i gadeirydd y pwyllgor, Bernard Jenkin AS, ofyn i Aelod Seneddol arall ofyn cwestiwn yn lle.
Wrth iddo adael y cyfarfod, dywedodd Mr Flynn fod y cyfarfod yn "ymgais i greu embaras i Lywodraeth yr Alban".
Dywedodd llefarydd ar ran yr SNP bod ymyrraeth Mr Flynn yn codi amheuon ynglŷn â pha mor ddiduedd yw pwyllgorau San Steffan, a'r hyn sydd yn cael ei ddweud gan bwyllgorau'r Senedd ynglŷn ag annibyniaeth yr Alban.
Nid yw cadeirydd y pwyllgor wedi ymateb i sylwadau Mr Flynn hyd yma.