Dewis mam i achub un efaill
- Cyhoeddwyd

Mae mam wrthododd driniaeth i arbed bywyd un efaill er mwyn achub y llall yn y groth yn galw am godi ymwybyddiaeth am syndrom y foch goch (slapped cheek syndrome).
Fe gafodd Dwynwen Davies, 30 o Lanbedr Pont Steffan, gynnig trallwysiad gwaed i drin ei merch, Martha wedi iddi gael y firws yn y groth.
Ond fe wrthododd hi gan y gallai'r driniaeth fod wedi lladd efaill Martha, Cadi oedd yn iach.
Nawr, mae Mrs Davies wedi lansio ymgyrch yn galw am ragor o wybodaeth am y firws.
Fe ddaliodd hi'r syndrom gan blentyn yn y feithrinfa lle'r oedd hi'n gweithio.
Mae gan blant sy'n dal y firws frech goch ar eu bochau a symptomau tebyg i'r ffliw, ond gall y firws Parvo B19 sy'n achosi'r cyflwr achosi anemia difrifol i fabanod yn y groth.
Fe ddywedodd meddygon wrth Mrs Davies y gallai trallwysiad gwaed achub Martha - ond gallai hynny fod wedi achosi iddi esgor ar yr efeilliaid yn gynnar, gan beryglu bywyd y ddwy ymhellach.
"Gan fod y doctoriaid yn dweud bod siawns uchel iawn y byddwn i'n esgor yn gynnar gyda'r driniaeth, fe benderfynais i na allwn i ei dderbyn."
Wythnosau wedi hynny fe ddywedodd meddygon wrth Mrs Davies fod Martha wedi marw.
Fe gariodd hi ei dwy merch nes i Cadi - sy'n chwe mis erbyn hyn - gael ei geni saith wythnos yn ddiweddarach.
'Mor ddiolchgar'
"Roedd e'n ofnadwy. Ti'n dal dau fabi a ma' un wedi marw a'r llall wedi goroesi," meddai Mrs Davies.
"Dw i'n edrych ar Cadi nawr a dw i mor ddiolchgar ond dw i'n meddwl y dylai fod gen i ddwy yn union yr un fath."
Nawr, mae Mrs Davies wedi lansio deiseb yn enw Martha yn galw ar fyrddau iechyd Cymru i gynhyrchu pamffled i'w dosbarthu mewn meddygfeydd, ysgolion a meithrinfeydd yn egluro peryglon y syndrom.
Yn ogystal, mae hi am weld profion firws yn rhan o'r prawf gwaed arferol sy'n cael ei roi i ferched beichiog.
'Peryglus'
"Nes i roi e [yr ymgyrch] ar Facebook a [chael] miloedd ar filoedd o sylwadau gan bobl yn dweud eu bod nhw'n gwybod am y syndrom, ond nid pa mor beryglus oedd e i rywun beichiog," meddai.
"Nes i ddechre' apêl Martha i godi ymwybyddiaeth - mae e mor drist 'mod i wedi colli babi oherwydd diffyg gwybodaeth ac ymwybyddiaeth am y firws."
"Gallai ei marwolaeth hi fod wedi cael ei osgoi. Mae'n hanfodol bod pobl yn gwybod amdano fe."