Arglwydd Patten i adael y BBC
- Cyhoeddwyd

Arglwydd Patten: Yn rhoi'r gorau iddi ar unwaith
Mae'r Arglwydd Patten wedi cyhoeddi y bydd yn gadael ei rôl fel cadeirydd Ymddiriedolaeth y BBC.
Bydd yn rhoi gorau i'w swydd ar unwaith ar ôl cael llawdriniaeth ar y galon.
Dywedodd nad oedd yn medru parhau â'r gwaith oherwydd ei broblemau iechyd.
Bydd y dirprwy gadeirydd Diane Coyle yn camu i'r rôl dros dro.