'Alban annibynnol yn hwb i Gymru' meddai Leanne Wood
- Cyhoeddwyd

Mi fyddai Alban annibynnol yn rhoi hwb i obeithion Cymru o allu llywodraethu ei hun mewn modd ystyrlon, yn ôl arweinydd Plaid Cymru.
Yn ôl Leanne Wood byddai hefyd yn arwain at ragolygon gwell ar gyfer yr economi yng Nghymru ac yn rhoi cyfle i greu amgylchedd cymdeithasol mwy blaengar.
Roedd AC Canol De Cymru'n siarad cyn mynd i'r Alban i gynnal trafodaethau gydag Arweinydd yr SNP, Alex Salmond.
Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru, dywedodd hefyd bod Llafur a'r Ceidwadwyr yn gweithio gyda'i gilydd er mwyn diogelu buddiannau Llundain, ar draul rhai'r Alban a Chymru.
'Cyfle arbennig'
Yr ymweliad hwn yw'r tro cyntaf i Ms Wood ymyrryd yn y ddadl dros ddyfodol yr Alban mewn ffordd sylweddol.
Mae Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones, eisoes wedi bod yn yr Alban yn galw ar ei dinasyddion i bleidleisio yn erbyn annibyniaeth er mwyn sicrhau parhau "Teyrnas Unedig gryf".
Yn siarad cyn yr ymweliad, dywedodd Ms Wood: "Mae pobl yn yr Alban gyda chyfle arbennig i benderfynu eu dyfodol eu hunain.
"Mae cyfle go iawn i Gymru fanteisio ar y cyfle yna i wella ein heconomi ac ein gwleidyddiaeth ni.
"Mae'r Ceidwadwyr a Llafur yn gweithio gyda'i gilydd yn erbyn yr Alban ac mae peryg eu bod yn gwneud yr un peth i Gymru er mwyn diogelu pŵer Llundain.
"Mae Plaid Cymru eisiau rhoi Cymru'n gyntaf a sicrhau pwerau go iawn i bobl Cymru."
Mae'r cyfarfod rhwng Ms Wood a Mr Salmond yn cael ei ystyried i fod yn un arwyddocaol, er bod arweinydd Plaid Cymru yn cydnabod nad yw'r drafodaeth ynghylch annibyniaeth yng Nghymru wedi cyrraedd yr un lefel ag yn yr Alban.
'Rhyfel ffug'
Er hynny, mae Ms Wood yn gweld tebygrwydd rhwng yr hyn mae ymgyrch Better Together yn ceisio'i gyflawni yn yr Alban a'r hyn mae hi'n ei weld fel consensws rhwng dwy brif blaid Cymru, Llafur a'r Ceidwadwyr.
Mae'r Ceidwadwyr wedi bod yn ymosod ar record y Blaid Lafur yng Nghymru yn gyson yn San Steffan dros y misoedd diwethaf, gan feirniadu'r ffordd maen nhw'n rheoli'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru'n enwedig.
Ond "rhyfel ffug" yw hwn, yn ôl Ms Wood, er mwyn tynnu sylw o'r ffaith bod y ddwy blaid yn gweithio yn erbyn buddiannau Cymru ar faterion fel cytundebau dim-oriau ac Ewrop.
Mae Carwyn Jones wedi dweud ei fod yn credu mai datganoli yw'r ffordd orau o sicrhau buddiannau Cymru a'r Alban o fewn y DU.
Mewn dadl yn y Cynulliad yn ddiweddar, dywedodd fod "dim amheuaeth" y byddai Cymru mewn sefyllfa ariannol wannach y tu allan i'r DU.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Mawrth 2014
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2013
- Cyhoeddwyd16 Medi 2013