Enwi'r ferch fu farw yng Nghasnewydd

  • Cyhoeddwyd
Jessica WatkinsFfynhonnell y llun, Heddlu Gwent
Disgrifiad o’r llun,
Roedd Jess yn 21 mlwydd oed

Mae Heddlu Gwent wedi enwi'r ferch 21 oed y cafodd ei chorff ei ddarganfod mewn eiddo ym Mryn Bevan yng Nghasnewydd fore Llun.

Roedd Jessica Watkins yn cael ei hadnabod fel Jess, ac yn byw yng Nghaerllion.

Mae ei theulu wedi rhyddhau teyrnged, sydd yn dweud: "Roedden ni i gyd yn caru Jess ac mi fyddwn yn ei methu hi'n ofnadwy.

"Cafodd ei chymryd oddi wrthym yn rhy fuan, mewn modd trasig. Mi fyddwn ni gyd yn ei charu hi am byth."

Mae'r dyn 27 oed gafodd ei arestio ar amheuaeth o'i llofruddio yn parhau i fod yn y ddalfa, wedi i'r heddlu lwyddo i gael gwarant i'w ddal am gyfnod hirach brynhawn dydd Mawrth.