Ymgais i ladd: plant wedi eu rhyddhau o'r ysbyty
- Cyhoeddwyd

Mae dau blentyn gafodd eu hanafu mewn ymgais i lofruddio honedig yng Nghasnewydd wedi eu rhyddhau o'r ysbyty.
Daeth yr heddlu o hyd i fachgen saith mlwydd oed a merch 16 mis oed gydag anafiadau yn Salisbury Close tua 8:00yb ddydd Mercher.
Cawson nhw eu trin yn Ysbyty Brenhinol Gwent, ond mae teulu yn gofalu amdanynt erbyn hyn.
Yn y cyfamser, mae menyw 27 oed, gafodd ei harestio ar amheuaeth o geisio llofruddio, wedi ei rhyddhau o'r ysbyty ond yn parhau i gael triniaeth mewn lleoliad arall.
Dywedodd yr heddlu y bydden nhw'n ei holi pan fydd ei hiechyd yn ddigon da.
Mae cymdogion wedi dweud wrth BBC Cymru mai mam y plant yw'r fenyw gafodd ei harestio.
Sioc
Dywedodd cymydog: "Roedd 'na gymaint o helynt y bore 'ma.
"Fe gyfrais i dri neu bedwar car heddlu a thri ambiwlans. Yn syth, roeddech chi'n gallu dweud fod rhywbeth o'i le.
"Mae clywed bod dau o blant wedi eu brifo yn drist iawn."
Fe ddywedodd y cynghorydd lleol Bob Poole fod y gymuned mewn sioc. "Mae'n lle hyfryd i fyw ynddo ac mae'r bobl yn halen y ddaear," meddai.
Mae'r heddlu wedi holi o ddrws i ddrws ac mae'r ffordd ar gau i'r cyhoedd.