Achos y Gleision: Tystiolaeth arbenigwr

  • Cyhoeddwyd
Rescuers at the mineFfynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,
Bu farw'r glowyr wedi i alwyni o ddŵr lifo i'r lofa

Mae arbenigwr wedi bod yn disgrifio'r llanast a welodd yng nglofa'r Gleision yn dilyn y trychineb yno lle bu farw pedwar o weithiwyr.

Yn ôl Vivian Gedamke fe wnaeth grym y dŵr achosi belt cludo wedi ei wneud o ddur i blygu mewn sawl man.

Roedd yn rhoi tystiolaeth yn yr achos yn erbyn rheolwr y pwll, Malcolm Fyfield, sydd yn gwadu cyhuddiad o ddynladdiad, a'r cwmni oedd yn berchen ar y safle, MNS Mining, sydd yn gwadu cyhuddiad o ddynladdiad corfforaethol.

Cafodd David Powell, 50, Charles Breslin, 62, Philip Hill, 44, a Garry Jenkins, 39, eu lladd wedi i hyd at 650,000 galwyn o ddŵr lifo i'r lofa.

'Wedi troi'

Cafodd Mr Gedamke ei alw i weld y difrod oedd wedi ei achosi yn dilyn y digwyddiad.

Dywedodd fod y fynedfa i'r lle bu farw'r dynion wedi "llenwi â llaid trwm, glo a malurion" ac y bu'n rhaid iddo ef a dyn arall wasgu eu ffordd i'r rhan o'r lofa oedd dan sylw.

Yno fe wnaethon nhw ddarganfod y belt cludo. "Mae'n debyg fod grym y dŵr pan roedd wedi torri drwodd, wedi taro pen y cludydd ac wedi ei orfodi yn ôl," meddai Mr Gedamke.

"Roedd y cludydd wedi ei wneud o ddur, roedd yn beiriant oedd yn rhannol anhyblyg, ac roedd wedi cael ei godi gan y dŵr mewn sawl lle fel ei fod wedi troi mewn sawl lle."

Fe aeth ymlaen i ddisgrifio sut iddo gropian rhyw 10 metr i hen ran y lofa lle'r oedd y dynion wedi bod yn defnyddio ffrwydron.

Sgets

Gofynnodd Elwen Evans QC, sy'n amddiffyn Fyfield, os byddai syrfewyr wedi gallu cyrraedd y rhan yno, ac fe gytunodd Mr Gedamke.

Ond meddai: "Nid pawb sy'n fodlon mynd (i lefydd mor gyfyng) ond dyma'r math o beth 'rwyf wedi arfer ei wneud."

Dywedodd ei fod wedi tynnu sgets o'r hyn roedd wedi ei weld, ond doedd yr heddlu heb gymryd datganiad ganddo mewn perthynas â'r llun tan bythefnos yn ôl.

Mae'r achos yn parhau.