'Sinderela' yn ennill yn y Llys Apêl
- Cyhoeddwyd

Mae merch fferm o Sir Gâr wedi ennill ei hapêl yn erbyn ei rhieni wedi iddi weithio "fel Sinderela" ar ystâd £7m y teulu.
Roedd rhieni Eirian Davies, 45, wedi addo y bydda hi'n etifeddu fferm lewyrchus y teulu - Caeremlyn yn Hendy-gwyn ar Daf - yn y pen draw.
Ond yn dilyn anghydfod teuluol roedd Tegwyn a Mary Davies, sydd yn eu 70au, wedi addasu eu hewyllys i rannu'r fferm yn gyfartal rhwng Eirian Davies a'i dwy chwaer.
Fe ddywedodd Miss Davies wrth y gwrandawiad ei bod hi'n cael ei gadael i weithio ar y fferm tra'r oedd ei chwiorydd yn mynd i ddawnsfeydd Ffermwyr Ifanc, neu i siopa gyda'u mam.
"Roedden nhw wastad yn dweud wrtha'i mai fi fyddai piau'r fferm. Hyd yn oed ar fy mhenblwydd, pan oedd y merched eraill yn cael pethau, fe fydden nhw'n dweud - 'fydd gen ti'r cyfan un diwrnod, ti fydd gan y cwbl'," meddai.
Ychwanegodd y byddai ei thad yn ei hatgoffa am ei dyfodol pe byddai hi'n cwyno am ei chyflog.
Dim cyflog
Chafodd Miss Davies ddim cyflog am ei gwaith ar y fferm tan oedd hi'n 21 oed, ac wedi hynny, byddai'n cael oddeutu £15 y dydd am odro'r gwartheg.
Fe alla'i hi fod "wedi cael bywyd gwell yn rhywle arall", ond roedd ei rhieni'n mynnu ei bod hi wedi cael cyflog teg, yn ogystal â bwyd a llety.
Fe waethygodd yr anghydfod yn y teulu yn dilyn "ffrwgwd" yn y parlwr llaeth, pan daflodd Mary Davies laeth dros ei merch, ac fe frathodd Eirian Davies ei thad ar ei goes yn ystod y digwyddiad.
Wedi hynny, fe ofynodd ei rhieni iddi hi adael y fferm a rhoi'r gorau i fyw yn y ffermdy. Fodd bynnag, mae Miss Davies yn parhau i fyw yno.
Yn y gwrandawiad, fe ddywedodd y barnwr bod Miss Davies yn gweithio ar fferm gan gredu ei bod hi mewn partneriaeth â'i rhieni - ond doedden nhw heb arwyddo'r cytundeb hwnnw.
'Diddordeb brwd'
Yn 2009, fe ddangosodd ei rhieni ewyllys ddrafft i Miss Davies, oedd yn gadael rhan helaeth o'r fferm iddi. Ond fe newidiodd Mr a Mrs Davies eu meddyliau, gan newid y ddogfen i adael rhan gyfartal o'r fferm i Miss Davies a'i dwy chwaer.
Ychwanegodd y barnwr fod gan Miss Davies "ddiddordeb brwd" yn y fferm, ac erbyn 1989 pan oedd hi'n 21, hi oedd yr unig chwaer ar ôl "wedi i'w chwiorydd adael i ddilyn llwybrau eraill".
"Mewn amryw ffordd, mae hwn yn achos trasig. Roedd y chwerwder mor amlwg nad oedd ganddyn nhw ddim byd caredig, bron, i ddweud am ei gilydd.
"Ond mae hyn yn ffaith - rhyngddyn nhw - drwy waith caled, sgil eithriadol ac ymroddiad brwd - fe adeiladon nhw fusnes llwyddiannus tu hwnt."
Daeth y gwrandawiad y ben yn y Llys Apêl, gyda thri barnwr yn dyfarnu y dylai Miss Davies gael cyfran fwy na'i chwiorydd o'r ystâd 182 acer, wedi blynyddoedd o waith am gyflog isel.
Fe fydd gwrandawiad arall i benderfynu faint o siâr fydd gan Miss Davies hawl iddo yn y man.