Garry Monk yw rheolwr parhaol yr Elyrch
- Cyhoeddwyd

Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi cadarnhau mai Garry Monk fydd rheolwr newydd parhaol y clwb.
Cadarnhaodd y clwb fod Monk - a fu yng ngofal y tîm dros dro ers i Michael Laudrup gael ei ddiswyddo ym mis Chwefror - wedi arwyddo cytundeb i fod yn rheolwr am dair blynedd.
O dan reolaeth Monk nid yw'r tîm wedi mwynhau tymor da, a dim ond y penwythnos cyn diwethaf y gwnaeth y clwb sicrhau y bydden nhw'n aros yn Uwchgynghrair Lloegr y tymor nesaf.
Fe fydd Josep Clotet yn parhau fel hyfforddwr i gynorthwyo Monk.
'Penderfyniad pwysig'
Wrth gyhoeddi'r penodiad dywedodd cadeirydd yr Elyrch, Huw Jenkins: "Fel cyfarwyddwr fe wnaethon ni ystyried y cam nesaf yn ofalus oherwydd roedd yn benderfyniad pwysig dros ben i'r clwb.
"Fe wnaethon ni gytuno'r unfrydol bod yr amser yn iawn i Garry gael cynnig y swydd yn barhaol.
"Wrth i ni edrych ymlaen at ein pedwerydd tymor yn yr Uwchgynghrair, roedden ni'n gytûn bod angen mynd yn ôl at y pethau elfennol a'r egwyddorion ddaeth â llwyddiant i ni dros y blynyddoedd diweddar.
"Mae Garry'n cynrychioli'r gwerthoedd sy'n agos at ein calon fel clwb ac mae pawb yn edrych ymlaen at weithio gydag e.
"Rydym wedi cael ein plesio'n arw gan waith caled ac ymrwymiad ers iddo gymryd yr awenau ym mis Chwefror, a sut y gwnaeth ymdopi gydag amgylchiadau anodd i sicrhau'r pwyntiau angenrheidiol i aros ar y lefel uchaf.
"Bydd Garry'n cydweithio gyda'r staff presennol i wella'r garfan dros yr haf er mwyn adeiladu tîm cryf, cystadleuol ar gyfer yr heriau fydd y ein hwynebu y tymor nesaf."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2014
- Cyhoeddwyd15 Ebrill 2014
- Cyhoeddwyd13 Mawrth 2014
- Cyhoeddwyd5 Chwefror 2014