Neges sarhaus: Arestio llanc 16 oed

  • Cyhoeddwyd
Ann Maguire
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd Ann Maguire ei thrywanu i farwolaeth yng Ngholeg Corpus Christi yn Leeds

Mae Heddlu'r De wedi cadarnhau eu bod wedi arestio llanc 16 oed mewn perthynas â sylwadau sarhaus honedig am farwolaeth yr athrawes Ann Maguire yn Leeds yr wythnos ddiwethaf.

Cafodd Ms Maguire ei thrywanu yng Ngholeg Catholig Corpus Christi ar Ebrill 28. Mae bachgen 15 oed o Leeds wedi cael ei gyhuddo o'i llofruddio.

Mae dyn 21 oed o Leeds wedi cael ei gyhuddo o gyhoeddi deunydd sarhaus ar y we am y digwyddiad a bydd yn ymddangos gerbron ynadon Leeds ar Fai 21.

Mae dyn 42 oed o Bort Talbot, Robert Riley, wedi cyfadde' iddo gyhoeddi negeseuon sarhaus ar wefan Twitter pan aeth o flaen llys ddydd Llun, Mai 4. Cafodd yr achos ei drosglwyddo i Lys Ynadon Abertawe ar gyfer dedfrydu.

Nawr mae'r heddlu wedi arestio llanc 16 oed o Gaerdydd ar amheuaeth o gyhoeddi sylwadau sarhaus ar wefannau cymdeithasol.