Cynllun newydd i geisio gwella gwasanaethau niwrolegol
- Cyhoeddwyd
Bydd cynllun yn cael ei lansio ddydd Iau sy'n gosod disgwyliadau ar gyfer byrddau iechyd o ran y gwasanaeth sy'n cael ei roi i bobl â chyflyrau niwrolegol.

Mae gan tua 500,000 o bobl yng Nghymru gyflwr niwrolegol sy'n deillio o niwed i'r ymennydd, asgwrn y cefn neu nerfau.
Dywed Llywodraeth Cymru eu bod am sicrhau fod pobl yn cael "mynediad amserol i ofal o ansawdd uchel, sydd wedi'i integreiddio gyda gwasanaethau cymdeithasol lle bo hynny'n briodol."
Mae cyflwr niwrolegol yn cynnwys clefyd Parkinson, epilepsi a pharlys ymledol (MS).
Cafodd y cynllun Cyflawni ar gyfer Cyflyrau Niwrolegol ei lansio yn swyddogol gan y gweinidog iechyd Mark Drakeford.
Y nod yw sicrhau fod yna gydweithredu agos gyda'r gwasanaethau cymdeithasol.
Un o amcanion y cynllun fydd mynd i'r afael â'r amrywiaeth yn y mynediad i wasanaethau a lleihau anghydraddoldeb iechyd ar draws saith thema:
- Codi ymwybyddiaeth o gyflyrau niwrolegol
- Gwneud diagnosis amserol o gyflyrau niwrolegol
- Gofal cyflym ac effeithiol
- Byw gyda chyflwr niwrolegol
- Plant a phobl ifanc
- Gwella gwybodaeth
- Targedu ymchwil
Y cynllun yw'r cam diweddara yn strategaeth llywodraeth Cymru Law yn llaw at iechyd i wella'r Gwasanaeth Iechyd.
Cafodd Glyn Jones o Gaerdydd ddiagnosis o MS yn 2004.
Mae'n disgrifio'r ddarpariaeth ar gyfer cleifion fel "loteri cod-post":
"Dwi'n lwcus yng Nghaerdydd - dwi'n gallu gweld niwrolegydd bob ryw fis, mae'r nyrs arbenigol ar ben arall y ffôn. Os mae rhywbeth yn digwydd fe fyddai'n gallu cael mynediad i'r ysbyty yn syth."
"Ond dwi'n gwybod yn y gorllewin, y canolbarth ac yn y gogledd mae'n llawer anoddach cael gafael ar nyrs arbenigol neu driniaethau."
"Mae'n rhaid byw yn yr ardal iawn i wneud yn siwr eich bod chi'n cael gafael ar y triniaethau da chi eu hangen."
Triniaethau
Mae Mr Jones yn gobeithio y bydd cynlluniau newydd llywodraeth Cymru'n newid y sefyllfa:
"Y gobaith ydy y byddai'n gallu trafod â ffrindiau yn y gogledd a'r gorllewin efo MS a ddim yn teimlo bo fi'n neilltuol am fy mod i'n cael triniaethau 'da nhw ddim yn eu cael. Efalle nawr bydd pawb yn cael eu trin a'r un un brwsh".
Wrth lansio'r cynllun yng Nghyfarfod Blynyddol Cymdeithas Niwrolegwyr Prydain yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd dywedodd Mr Drakeford:
"Gall y cyflyrau niwrolegol hyn effeithio'n ddifrifol iawn ac yn barhaol ar fywydau unigolion a'u teuluoedd.
"Mae codi ymwybyddiaeth ymysg y cyhoedd a chlinigwyr yn bwysig iawn ac yn rhy aml o lawer mae symptomau'r cyflyrau hyn yn cael eu camddeall.
"Mae'r cynllun hwn yn rhoi'r arweiniad angenrheidiol ac yn egluro'r safonau gofynnol. Rhaid inni ddarparu gofal rhagorol, trwy wneud diagnosis amserol a thrwy gynnig triniaeth briodol a chymorth parhaus."
Dywedodd Joseph Carter, Cyfarwyddwr Dros Dro Cymdeithas MS yng Nghymru, fod yna her yn wynebu llywodraeth Cymru wrth geisio mesur llwyddiant y cynllun.
"Byddwn yn awyddus iawn i sicrhau cyfraniad defnyddwyr gwasanaethau ym mhob bwrdd iechyd - er mwyn sicrhau fod y cynllun yn darparu ar eu cyfer."
"Ar hyn o bryd mae yna ddigon o eiriau cynnes a gobeithio y bydd hynny yn ysgogi newidiadau - ond mae angen mesur hynny."