Cyhuddo dyn o lofruddio
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 27 oed o Gasnewydd gafodd ei arestio, wedi i gorff dynes 21 oed gael ei ddarganfod yn y ddinas, wedi cael ei gyhuddo o lofruddiaeth.
Bydd y dyn yn ymddangos gerbron Ynadon Casnewydd bore dydd Iau.
Cafodd Heddlu Gwent eu galw i gyfeiriad ar stryd Bryn Bevan am 11:15 fore Llun.
Dywed yr heddlu mai Jessica "Jess" Watkins o Gaerllion yw'r ddynes sydd wedi marw.