Adnewyddu Amgueddfa Ceredigion ar gost o £3m
- Cyhoeddwyd

Mae cabinet Cyngor Ceredigion wedi penderfynu ailddatblygu amgueddfa ar gost o £3m.
Y nod yw ailddatblygu'r amgueddfa yng Nghanol Aberystwyth fel y bydd yn cynnwys canolfan groeso.
Bydd y cyngor yn gwneud cais am arian loteri ac yn codi £200,000 drwy werthu'r ganolfan groeso bresennol.
Clywodd y cyngor fod y prosiect yn gymwys i gael arian loteri ond y byddai'r broses yn para am o leia ddwy flynedd yn achos y ddwy ran gynta.
Fe fyddai'r amgueddfa ar ei newydd wedd yn cynnwys siop y drws nesa iddi.
Arbedion
Mae'n bosib y bydd y cyngor yn colli hyd at £35,000 y flwyddyn, incwm oherwydd rhentu'r siop.
Dywedodd adroddiad Pennaeth y Gwasanaethau Datblygu Economaidd a Chymunedol Allan Lewis y gallai ailstrwythuro staffio a gwasanaethau arwain at arbedion.
Ar hyn o bryd mae 10 o weithwyr llawn a rhan amser yn yr amgueddfa a naw yn y ganolfan groeso.
Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: "Bydd y cyngor yn gallu ystyried opsiynau pan fyddwn ni'n gwybod am ganlyniadau'r ceisiadau am arian."
Agorodd yr amgueddfa yn 1972 a'r cyngor sy'n berchen arni ers 1996.